Yn dilyn cyhoeddiad Tata Steel am eu safle ym Mhort Talbot, mae Cyfeillion y Ddaear wedi beirniadu Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig am beidio â chynllunio ymlaen llaw ar gyfer dyfodol gwyrdd.
Dywed Tata eu bod nhw am gau dwy ffwrnais chwyth a chyflwyno ffwrneisi arc trydan er mwyn lleihau allyriadau a chostau.
Yn ôl Tony Bosworth, sy’n ymgyrchydd gyda Chyfeillion y Ddaear, mae’r newyddion yn “ergyd drom i weithwyr a’r gymuned leol”.
“Mae’r byd yn symud tuag at gynhyrchu dur gwyrdd, ond mae diffyg Strategaeth Ddiwydiannol flaengar gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gadael gweithwyr heb adnoddau na chymorth.
“Dylai Port Talbot fod yn flaenllaw wrth symud tuag at ddur glân – gyda buddsoddiad mewn hydrogen gwyrdd i bweru cynhyrchu dur pur, yn ogystal â ffwrneisi arc trydan.
“Byddai hyn yn helpu i warchod swyddi, cefnogi cynhyrchu dur cartref, ac yn rhoi hwb i symudiad y Deyrnas Unedig tuag at economi werdd.
“Mae symudiad y diwydiant dur oddi wrth lo hefyd yn dangos ffolineb penderfyniad y llywodraeth, ychydig dros flwyddyn yn ôl, i gymeradwyo pwll glo newydd yn Cumbria – yn rhannol er mwyn darparu glo ar gyfer dur y Deyrnas Unedig.
“Rhaid i weinidogion roi’r gorau i gefnogi’r pwll glo diangen hwn sy’n llygru – a rhoi ardaloedd fel Gorllewin Cumbria a Phort Talbot wrth galon y dyfodol mwy glân mae ei angen arnom ar frys.”
‘Newyddion torcalonnus’
“Mae hyn yn newyddion torcalonnus i bobol Port Talbot,” meddai Haf Elgar, Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru.
“Dylid gwneud y symudiad tuag at ddur gwyrdd mewn modd teg, er mwyn diogelu dyfodol Port Talbot, creu swyddi hirdymor cynaliadwy, a rhoi ardaloedd fel hon ar flaen y gad wrth symud tuag at economi lân.”