Mae Jo Stevens, llefarydd materion Cymreig Llafur yn San Steffan, wedi gofyn “Beth yw pwrpas Rishi Sunak?”

Daw ei sylwadau wrth iddi ymateb i adroddiadau bod Prif Weinidog y Deyrnas Unedig yn rhy brysur i gynnal trafodaeth dros y ffôn â Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, am sefyllfa gweithfeydd dur Tata Steel ym Mhort Talbot.

Mae Cyfeillion y Ddaear wedi beirniadu diffyg cynllunio gan Lywodraeth San Steffan ar gyfer dyfodol gwyrdd ar ôl i’r cwmni dur gyhoeddi eu bod nhw’n cau ffwrneisi, gan beryglu miloedd o swyddi.

“Beth yw pwrpas Rishi Sunak?” meddai Aelod Seneddol Canol Caerdydd.

“Mae bywoliaeth gweithwyr Tata yn y fantol, a wnaiff e ddim hyd yn oed ateb ei ffôn.

“Pe bai Llywodraeth Lafur yn y Deyrnas Unedig nawr, fyddai gweithwyr dur Cymru ddim wedi dihuno i’r newyddion hwn heddiw.

“Mae Llafur wedi clustnodi buddsoddiad o £3bn er mwyn sicrhau y daw’r symudiad i ddur gwyrdd â swyddi i Gymru.”

Ysgrifennydd Cymru’n amddiffyn y llywodraeth

Yn y cyfamser, mae David TC Davies, Ysgrifennydd Cymru, wedi amddiffyn Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

“Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi addo hanner biliwn o bunnoedd i achub oddeutu 5,000 o swyddi a miloedd yn rhagor yn y gadwyn gyflenwi,” meddai.

“Bydd £100m arall ar gael i Fwrdd Pontio i ailhyfforddi pawb fydd yn colli eu swyddi.

“Heb y cytundeb hwn, byddai Tata wedi tynnu allan o weithfeydd dur Port Talbot, gyda phob swydd yn cael ei cholli.”

Y ffwrnais yn y nos

Port Talbot: Ymateb chwyrn wrth i Tata gadarnhau y bydd 2,800 o swyddi’n cael eu colli

Mae Aelodau’r Senedd wedi codi cwestiynau ynglŷn â pham nad oedd cyfnod pontio ar gyfer y safle

Tata: Galw am eglurdeb ynghylch gweithfeydd Trostre

Mae’r safle yn Llanelli yn prosesu dur o Bort Talbot i wneud caniau