Mae galwadau’r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth i ymestyn y dyddiad cau ar gyfer cynlluniau gwerth miliynau o bunnoedd i gartrefu archifau’r BBC wedi cael eu derbyn, a hynny am fod cyllid wedi’i golli o ganlyniad i’r pandemig Covid-19.
Cafodd y cais ei gymeradwyo fis Tachwedd 2018, ynghyd â chyfnod safonol o bum mlynedd er mwyn dechrau’r gwaith, ond bu’n rhaid defnyddio cyllid gafodd ei neilltuo ar gyfer y prosiect at ddibenion brys eraill.
Y brif ar gyfer adeilad yr Archif Ddarlledu Cymru yw darparu storfa ddwys wedi’i rheoli’n amgylcheddol ar gyfer 750 metr ciwb o ddeunydd archif, sy’n gyfuniad o dâp magnetig, ffilm seliwloid, recordiadau feinyl a dogfennau papur, gydag oddeutu 25% o’r deunydd mewn oergell.
Mae’r archif wedi’i lleoli yng nghefn y safle yn nhrydydd adeilad y llyfrgell, ger y storfa allanol.
“Mae’r datblygiad wedi’i ohirio dros dro tan bod digon o gyllid newydd ar gael,” meddai’r cais am estyniad, gafodd ei gyflwyno fis Tachwedd y llynedd.
“Mae’r gwaith dylunio wedi’i gwblhau ac yn barod i fynd i dendr.
“Fodd bynnag, does dim digon o gyllid ar gael i’r prosiect ddechrau cyn Tachwedd 26, 2023, sef y dyddiad cau ar gyfer dechrau’r amod cynllunio [o bum mlynedd].”
Cymeradwyo addasu’r amodau
Mae cynllunwyr Ceredigion, yn unol â pwerau sydd wedi’u dirprwyo, bellach wedi cymeradwyo addasu’r amodau i ddeng mlynedd, gan roi pum mlynedd ychwanegol i’r datblygiad ddechrau.
O dan y cynlluniau gafodd eu derbyn yn wreiddiol, byddai’r Archif Ddarlledu Genedlaethol pedair llawr wedi cael cartref mewn estyniad newydd wedi’i gysylltu â thrydydd adeilad y llyfrgell drwy bont un llawr yr oedd disgwyl ar y pryd y byddai’n costio oddeutu £9m.
Roedd y gwaith arall ynghlwm wrth y cynllun yn cynnwys dymchwel grisiau ar ochr ddwyreiniol storfa allanol gyfagos ac adeiladu grisiau newydd, dymchwel wal frics ar y ffin o amgylch adeilad oeri, a gosod cladin newydd ar wyneb allanol y tŷ peiriannau presennol ar ochr ogleddol y trydydd adeilad.
Dywedodd datganiad o gefnogaeth gyda’r cais gwreiddiol na fyddai’r archif, fyddai’n cael ei digideiddio, ar agor i’r cyhoedd.
“Bydd gan adeilad arfaethedig yr archif effaith gyfyngedig ar arwyddocâd yr adeilad rhestredig Gradd II a’r ardd hanesyddol oherwydd ei leoliad cynnil yng nghefn y safle lle bu datblygiad modern sylweddol eisoes,” meddai adroddiad ar gyfer cynllunwyr Ceredigion adeg y cais yn 2018.
“Fodd bynnag, bydd y cynigion yn cynnig datrysiad fydd yn tacluso ardal o’r safle sydd ar hyn o bryd yn hyll, drwy gynnig strwythur cladin alwminiwm modern wedi’i fframio gan ddau estyniad brics, a chlymu ynghyd drydydd adeilad y llyfrgell a’r storfa allanol.”