Mae David Rees, yr Aelod Llafur o’r Senedd dros Aberafan – etholaeth sy’n cwmpasu Port Talbot – wedi addo y bydd yn brwydro dros bob swydd sydd wedi ei cholli yn dilyn y cyhoeddiad am safle gwaith dur Tata.
Daw ei sylwadau wedi’r newyddion bod mwy na 2,500 o swyddi wedi’u colli yn y dref, yn sgil cau’r ddwy ffwrnais chwyth yno.
Ychwanega ei fod yn “destun gofid”, er gwaethaf gwaith parhaus y Bwrdd Pontio rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Llywodraeth Cymru a Tata, nad yw’r cwmni gwaith dur wedi derbyn y cynllun aml-undeb a wnaed gyda’r uchelgais o gyflwyno cyfnod pontio wrth droi at gynhyrchu dur gwyrdd.
Yn wreiddiol, roedd awgrym i gadw un o’r ffwrnesi gwreiddiol ar agor wrth i’r safle droi at y rhai newydd, ond er i Tata ddweud eu bod nhw wedi ystyried y cynnig, wnaethon nhw ddim parhau ag e.
‘Byddai cyfnod pontio wedi achub swyddi’
Mae David Rees yn dadlau y byddai’r cynllun hwn wedi arbed miloedd o swyddi dros y blynyddoedd i ddod, ac wedi cefnogi gweithwyr i drosglwyddo ac ailsgilio mewn diwydiannau gwahanol lle bo’n briodol.
Dywed y byddai wedi bod yn bosib cadw’r ffwrnais ar agor nes iddi gyrraedd diwedd ei hoes yn 2032.
“Byddai hynny wedi caniatáu i waith dur barhau; byddai wedi caniatáu i lai o swyddi gael eu colli a mwy yn cael eu cadw, ac yn ystod y cyfnod hwnnw gallai’r gweithwyr fod wedi cael eu hailhyfforddi, sy’n golygu cyfnod pontio llyfnach i ddur gwyrdd,” meddai wrth golwg360.
“Byddai hynny wedi caniatáu i fusnesau barhau i weithredu a’r contractwyr i barhau i weithio.
“Iawn, efallai y byddai gostyngiad wedi bod oherwydd mai un ffwrnais chwyth fyddai’n gweithredu yn hytrach na dau, ond byddai’r prosesau yna’n dal i fod yn gallu parhau.”
‘Ddim yn ddewis gwyrddach’
Ychwanega David Rees ei fod yn “benderfyniad anghywir” i ddisodli’r ffwrneisi chwyth, o ystyried mai gobaith Tata yw troi at ddulliau gwneud dur mwy gwyrdd.
“Os meddyliwch am yr amgylchedd a bod yn wyrdd, maen nhw wedi disodli ffwrnais chwyth yn ne Cymru, un oedd yn cael ei chydnabod fel un o’r rhai gorau ar gyfer effeithlonrwydd carbon,” meddai.
“Mae’n debyg y bydd y ffwrnais chwyth honno’n cael ei disodli gan ffwrneisi chwyth mewn mannau eraill yn y byd – rhai sydd, fwy na thebyg, yn fwy carbon-ddwys na’r rhai sydd gennym ni.
“Felly maen nhw’n cynyddu eu hallbwn, mewn gwirionedd.
“O ystyried yr agenda werdd, maen nhw wedi gwneud y penderfyniad anghywir.”
‘Mae pawb yn mynd i ddioddef’
Disgrifia David Rees gynllun Tata fel un “miniog a dinistriol”, a dywed y bydd yn arwain at filoedd o swyddi’n cael eu colli ymhen llai na deunaw mis, nid yn unig ar y safle gwaith dur ond ar draws y gadwyn gyflenwi ym Mhort Talbot ac yng ngweddill Cymru.
Dywed ei fod yn “ymrwymo’n barhaus” i gefnogi’r gweithwyr dur a’r gymuned, gan ychwanegu ei fod am barhau i gydweithio’n agos â Llywodraeth Cymru ac undebau llafur.
“Byddwn yn ymladd dros bob un swydd ym Mhort Talbot, a thros bontio teg a chyfiawn i bob gweithiwr er mwyn amddiffyn y diwydiant hanfodol hwn,” meddai.
Ychwanega fod dau gam i’w cymryd nawr.
Yn gyntaf, dywed y bydd yn rhaid i’r gronfa bontio sydd wedi’i sefydlu edrych yn ofalus ar sut y gallai helpu busnesau ac annog buddsoddiad i mewn er mwyn ceisio creu cyfleoedd swyddi newydd a chefnogi pobol i ailhyfforddi.
“Ond nawr mae angen i’r ddwy lywodraeth ddod at ei gilydd a rhoi cefnogaeth, efallai rhyw fath o ryddhad busnes i’r ardal,” meddai.
“Neu gallan nhw fuddsoddi i greu swyddi newydd.
“Mae llawer o bethau sy’n rhaid meddwl amdanyn nhw.”
Fodd bynnag, dywed mai’r broblem fwyaf yw’r ffaith nad gweithwyr Tata yn unig sydd am golli eu swyddi.
“Bydd yn effeithio ar y cadwyni cyflenwi a ni fydd gan y contractwyr gontractau mwyach,” meddai.
“Mae eu hincwm nhw hefyd yn mynd i ddiflannu, ac felly gan na fydd yr incwm yn mynd i bocedi pobol leol, fydd e ddim yn mynd yn ôl i mewn i’r dref drwy wariant yn y diwydiant lletygarwch neu ar fwyd ac ati chwaith.
“Mae pawb yn mynd i ddioddef oherwydd hyn.”