Mae un o bwyllgorau San Steffan, sy’n cynnwys dau aelod o Gymru, yn awyddus i gyflwyno mecanwaith newydd er mwyn craffu ar waith yr Arglwydd David Cameron, Ysgrifennydd Tramor y Deyrnas Unedig.

Gan nad yw’n Aelod Seneddol, does dim modd ar hyn o bryd i Dŷ’r Cyffredin graffu ar ei waith.

Ond gallai’r pwyllgor sy’n cynnwys Tonia Antoniazzi, Aelod Seneddol Gŵyr, a Chris Elmore, Aelod Seneddol Aberogwr, gyflwyno mecanwaith newydd fyddai’n galluogi craffu.

Yn ôl y New Statesman, mae’n bosib y gallai gael ei holi o’r tu ôl i’r “Bar”, neu linell wen, fyddai’n golygu na fyddai’n rhaid iddo gamu i mewn i Dŷ’r Cyffredin a thorri’r rheolau presennol.

Mae disgwyl i’r pwyllgor gyflwyno’r argymhelliad dros y dyddiau nesaf, ond bydd y Llywodraeth yn cael penderfynu a fydd yn cael ei drafod ac yn destun pleidlais.

Yn ôl llefarydd ar ran y Prif Weinidog Rishi Sunak, mae’r Arglwydd Cameron yn mynd gerbron pwyllgorau a’r Arglwyddi’n aml, ac mae ganddo lefarydd ar ei ran yn Nhŷ’r Cyffredin.