Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cyhoeddi bod y Digwyddiad Mawr Mewnol gafodd ei ddatgan yn Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd ar Awst 15 yn sgil darganfod planciau concrid diffygiol, bellach wedi dod i ben.

Bu’n rhaid i’r bwrdd iechyd weithredu ar y pryd oherwydd pryderon am ddiogelwch strwythurol safle Ysbyty Llwynhelyg, ar ôl i nifer o blanciau concrid RAAC gael eu darganfod.

Mae’r penderfyniad i ddod â’r digwyddiad i ben yn golygu bod y bwrdd iechyd wedi mynd i’r afael â’r materion iechyd a diogelwch uniongyrchol a’r risgiau yr oedd RAAC yn eu peri, meddai’r bwrdd mewn datganiad.

“Mae hyn yn newyddion da, ond mae’n bwysig nodi bod rhai gwasanaethau’n parhau i gael eu dadleoli a’u darparu o leoliadau eraill, sy’n cyflwyno heriau gweithredol parhaus,” meddai Andrew Carruthers, Cyfarwyddwr Gweithrediadau’r bwrdd iechyd.

“Bydd gwaith atgyweirio yn parhau trwy gydol y flwyddyn hon.

“Mae yna hefyd raglen barhaus o waith arolygu rheolaidd i fonitro cyflwr y RAAC, fydd yn achosi peth aflonyddwch o bryd i’w gilydd.”

‘Diolch’

“Hoffwn hefyd ddiolch i gleifion, ymwelwyr ac aelod o’r cyhoedd am eu hamynedd, cefnogaeth a dealltwriaeth yn ystod yr hyn sydd wedi bod yn gyfnod heriol iawn i ni a’n cleifion,” meddai Andrew Carruthers wedyn.

“Rydym yn ddiolchgar i’n cleifion a’n staff, am eu cefnogaeth barhaus, ac am ddeall pryd y bu angen i ni symud gwasanaethau dros dro i leoliadau eraill.

“Mae gwaith caled ar y cyd staff a rheolwyr ysbyty, gyda chefnogaeth ein partneriaid awdurdod lleol a Llywodraeth Cymru, wedi ei gwneud yn bosibl i ni wneud atgyweiriadau a chyrraedd y pwynt hwn o ostwng statws y digwyddiad.

“Rydym yn edrych ymlaen at barhau i gydweithio i reoli’r gwaith o atgyweirio ac ailgomisiynu’r wardiau yr effeithiwyd arnynt.

“Rydym yn disgwyl y bydd wardiau’n cael eu defnyddio eto erbyn diwedd mis Mawrth 2024, gyda’r gwaith o atgyweirio’r ceginau a’r ardaloedd cleifion allanol i’w gwblhau yn ddiweddarach eleni.”