Maent yn dweud mai tair eiliad ydi hyd cof pysgodyn aur.

Rydym yng nghanol yr Wythnos Weddi am Undod Cristnogol (Ionawr 18-25). Mae’r wythnos hon yn bechod. Nid mater o dorri rheolau yw pechod bob amser. I’r gwrthwyneb, gall pechod fod yn fater o fynnu cadw rheolau, a’u cadw’n fanwl gywir; glynu’n haearnaidd wrthyn nhw, doed a ddelo, costied a gyst. Mae i’r Wythnos Weddi am Undod Cristnogol ei rheolau, a glynwn, bawb, yn dynn wrthyn nhw, bob un, costied a gyst, doed a ddelo. Am wythnos, gwnawn yn union fel y dylem: cynhaliwn – ar y cyd – gyfarfodydd ac oedfaon; cawn ddatganiadau, areithiau, trafodaethau, seminarau, gweddïau, y cyfan yn unol â’r hyn sydd yn ddisgwyliedig gennym yn ystod yr Wythnos o Weddi am Undod Cristnogol. Gwyddom y rheolau, a gwyddom fod yn rhaid i bawb ohonom lynu wrthyn nhw. Gwaith anodd yw hyn – bod ar ein best behaviour. Ond gwaith wythnos ydyw – dim ond wythnos o waith!

Yr Wythnos Weddi am Undod Cristnogol: pechod. “All Sins ar attempts to fill voids,” meddai Simone Weil (1909-43). O ymdeimlo â gwacter yn ein byw, awn ati i geisio llenwi’r gwacter hwnnw. Gwna unrhyw beth y tro i’w lenwi, gan ein bod yn credu mai’r llenwi sy’n allweddol. Os ydym, fel Pantycelyn (1717-91), yn syrthio ganwaith i’r un bai, rhaid gofyn: pa fath wacter yw hwn ynof? Beth yw ei hyd, ei led a’i ddyfnder? Cydnabod y gwacter yw’r gamp, plymio iddo, nid ceisio’i lenwi. Mae’r Wythnos o Weddi am Undod Cristnogol yn bechod: ymgais ydyw i lenwi’r gwacter sydd wrth wraidd ein bod fel eglwysi: nid unedig mohonom. Rhag gorfod cydnabod gwir hyd a lled y gwacter hwnnw, gwnawn yn union fel y dylem, ac fel mae disgwyl i ni wneud, am wythnos – dim ond am wythnos.

Yr Wythnos Weddi am Undod Cristnogol: pechod; ond nid drwg. Pechod yw methu bod, neu ddewis peidio â bod, yr hyn oll y bwriadwyd i ni fod: plant Duw, yn un yng Nghrist. Drwg yw’r parodrwydd i frifo arall; dilorni, bychanu. Dyna pam, am wn i o leiaf, y bu Iesu mor barod i faddau i’r wraig honno gafodd ei dal mewn godineb, wrth gondemnio’r dynion rheini ddaeth ynghyd i’w lladd (Ioan 8:1-11). Wrth gondemnio eu drwg hwythau, maddeuodd Iesu ei phechod hi; pam? Roedd hon, fel pob gwir bechadur, yn barod i gydnabod yr angen am faddeuant, am arweiniad, ac am gyfle i ddechrau o’r newydd. Meddai Igor Stravinsky (1882-1971), “Sin cannot be undone, only forgiven.” Does dim modd dadwneud pechod yr Wythnos Weddi am Undod Cristnogol, ond byddai modd ei faddau, pe bawn yn ymddiried o’r newydd yn ein Duw: Myfi, myfi yw Duw sy’n dileu dy anwireddau er fy mwyn fy hun, heb alw i gof dy bechodau (Eseia 43:25). Cydnabyddwn nad Undod Cristnogol mo gwneud a dweud yr hyn sydd i’w ddisgwyl gennym bob blwyddyn, am wythnos. Cydnabyddwn, yn eglur ar goedd, mai ymgais yw’r wythnos flynyddol hon i lenwi’n hawdd y gwacter na allwn yn hawdd ei lenwi.

Ystyriwch y pysgodyn aur. Maen nhw’n dweud mai tair eiliad ydi hyd cof pysgodyn aur. Dw i ddim yn gwybod pwy yn union ddywedodd hynny wrthyf, ond os gwir, mentraf ofyn y cwestiwn: a ydym yn debyg i bysgodyn aur yn ein hymgais i fod yn un, ie, fel yr wyt ti, O Dad, ynof fi a minnau ynot ti (Ioan 17:21)? Yn ein hymgais i greu a chynnal Undod Cristnogol, a ydym yn debyg i’r pysgodyn bach hwnnw’n meddwl ei fod, o hyd fyth yn darganfod dyfroedd newydd, yn nofio lle na fentrodd yr un pysgodyn aur arall nofio o’r blaen; tra bod y creadur, mewn gwirionedd, yn styc mewn powlen wydr, yn nofio, trosodd a throsodd, yr un hen ddŵr.

Neu, ydi pysgodyn aur yn ryw amau ei fod o’n treulio’i oes yn cylchu powlen wag? Dyna’r cwestiwn pwysig! Pe bawn yn ystod yr Wythnos Weddi am Undod Cristnogol ond yn ryw amau, a lled awgrymu bod mwy i Undod Cristnogol na chylchu, cylchu, cylchu llond powlen o ystrydeb… Pe baem ni’n gwneud hynny, efallai – efallai – y gwelwn fod neidio o bowlen y pysgodyn aur yn bosib i ni, heddiw, nawr…