Mae cyngor sir wedi cytuno na fydd perchnogion ail gartrefi yn talu premiwm treth y cyngor am flwyddyn os oedden nhw wedi bod yn talu cyfraddau busnes.

Fe wnaeth penderfyniad fis Mawrth y llynedd gymeradwyo cynllun y byddai’n rhaid i berchnogion ail gartrefi a llety gwyliau yn Sir Fynwy dalu dwywaith treth y cyngor a phremiwm o 100% o fis Ebrill eleni, ac y byddai graddfa hyd at 300% yn weithredol ar gyfer eiddo gwag hirdymor.

Ond cytunwyd i gynnal adolygiad o’r premiwm ar ail gartrefi cyn i’r polisi gael ei weithredu ym mis Ebrill, er mwyn ystyried ei effaith ar dwristiaeth a newid i reoliadau Llywodraeth Cymru.

Bellach, mae’n ofynnal i lety gwyliau hunanarlwyo gyrraedd y trothwy o fod wedi’u bwcio am o leiaf 182 o ddiwrnodau dros y deuddeg mis blaenorol er mwyn bod yn gymwys i dalu cyfraddau busnes yn hytrach na threth y cyngor.

‘Dirfawr angen cartrefi teuluol’

“Dydy’r rhain ddim yn blastai enfawr, ond gallen nhw fod yn gartrefi teuluol ychwanegol mae dirfawr eu hangen arnon ni yn Sir Fynwy,” meddai’r Cynghorydd Ben Callard, y Cynghorydd Llafur ac Aelod o’r Cabinet â chyfrifoldeb dros gyllid, gan ychwanegu bod y rhan fwyaf o ail gartrefi yn y bandiau treth gyngor isaf.

“Nid pwrpas y polisi yw codi refeniw, ond dod ag eiddo gwag neu sydd â defnydd annigonol yn ôl i ddefnydd.

“Bydd unrhyw refeniw sy’n cael ei godi’n cael ei warchod i’w ddefnyddio i fynd i’r afael â’r prinder tai.”

Dywed fod rhai eiddo gwag, ers i’r Cyngor gytuno ar y cynllun premiymau, wedi’u dychwelyd i’r farchnad dai, a dywed y gall tîm opsiynau tai’r Cyngor roi cymorth a chyngor i unrhyw berchennog ynghylch sut i ddod â’r eiddo yn ôl i ddefnydd.

Gwrthwynebiad

Dywed y Cynghorydd Richard John, arweinydd yr wrthblaid Geidwadol, y bydden nhw’n gwrthwynebu codi’r premiwm ond yn cefnogi argymhelliad y Cabinet fod cyfnod gras yn cael ei roi ar gyfer eiddo sy’n symud o gyfraddau busnes i dreth y cyngor o fis Ebrill.

Disgrifiodd y premiwm fel “ergyd arall i’r diwydiant twristiaeth yn Sir Fynwy”.

“Mae perygl difrifol y bydd nifer o weithredwyr hunanarlwyo yn Sir Fynwy yn derbyn biliau ôl-weithredol am filoedd o bunnoedd,” meddai Cynghorydd Mitchell Troy a Thryleg.

“Dydy’r rhain ddim yn gwmnïau gwerth miliynau o bunnoedd ond yn fasnachwyr bychain ac unigolion â moddion bychain iawn, ac rydych chi mewn perygl o roi biliau sylweddol iddyn nhw.”

Dywedodd y cynghorydd fod y cynnydd yn y trothwy i fod yn gymwys ar gyfer cyfraddau busnes, gafodd ei gyflwyno fis Ebrill y llynedd gan gynyddu’r isafswm y byddai’n rhaid rhoi eiddo ar osod o 140 diwrnod, yn cosbi busnesau gafodd eu heffeithio gan reoliadau Covid-19 a pherchnogion oedd wedi cadw diwrnodau’n rhydd rhwng archebion fel rhagofal.

Dywedodd hefyd y byddai’r polisi’n gwneud gwyliau’n fwy drud na’r rheiny “dros y ffin yn Fforest y Ddena”.

‘Cam i’r cyfeiriad cywir’

Fe wnaeth Tudor Thomas, yr Aelod Llafur dros y Fenni, alw’r premiwm yn “gam i’r cyfeiriad cywir” gan ddweud bod Sir Fynwy’n “lle anodd i fyw” i’r rheiny ar incwm is a bod yn “rhaid ei bod yn uffern” i deuluoedd fu’n rhaid iddyn nhw gael eu cartrefu mewn gwestai.

Dywedodd Dale Rooke, yr Aelod Llafur dros Gas-gwent, fod 370 o deuluoedd yn y dref yn chwilio am lety, ac y byddai’n cefnogi’r polisi er y gallai gynyddu nifer y cartrefi ryw ychydig.

Dywedodd Louise Brown, yr Aelod Ceidwadol dros Drenewydd Gelli-fach, ei bod hi’n deall bod rhai llety gwyliau’n cael eu defnyddio fel llety i bobol ddigartref, gan ofyn a oedd hynny wedi cael ei ystyried.

Dywedodd y Cynghorydd Ben Callard na all eiddo symud rhwng cyfraddau busnes a threth y cyngor o flwyddyn i flwyddyn yn seiliedig ar gyfraddau deiliadaeth, ac y gallai eu gwerth fod yn uwch i’r economi leol o fod â deiliaid parhaol pe na bai’r trothwy ar gyfer llety twrisiaeth – y mae’n ei amcangyfrif fel chwe mis – yn cael ei fodloni.

Mae ffigurau’r Cyngor yn dangos bod gweithredwyr hunanarlwyo’n cyfrif am 64% o weithredwyr twristiaeth cyfan Sir Fynwy, ac mae disgwyl y bydd cynifer â 176 o fusnesau hunanarlwyo bellach yn destun treth y cyngor a’r premiwm, gyda nifer wedi derbyn rhyddhad cyfraddau busnes yn y gorffennol heb orfod gwneud unrhyw daliadau.

Fe wnaeth Fay Bromfield, Rachel Buckler a Jayne McKenna, sydd i gyd yn gynghorwyr Ceidwadol, ddatgan buddiant gan adael y siambr yn ystod y drafodaeth.

Mae eiddo sydd wedi’u cyfyngu gan amodau cynllunio i’w defnyddio fel llety gwyliau ymhlith y rhai sydd wedi’u heithrio o’r premiwm.