Roedd protest arall y tu allan i Swyddfa’r Post yn Aberystwyth dros y penwythnos, yn dilyn agweddau gwrth-Gymraeg yno unwaith eto.
Roedd addewidion gan Swyddfa’r Post yn 2022 na fyddai’r agweddau negyddol yn parhau, wrth iddyn nhw ateb llythyr gan Gymdeithas yr Iaith.
Er gwaetha’r addewid, fe fu nifer o adroddiadau o brofiadau tebyg yno ers hynny, gan gynnwys sylwadau nad yw’r Gymraeg yn iaith swyddogol – sy’n anghywir – a chafodd rhai cwsmeriaid eu cyfeirio at gangen arall er mwyn derbyn gwasanaeth Cymraeg.
‘Hawl i ddefnyddio’r Gymraeg’
Un o’r rhai sydd wedi profi agwedd sarhaus tuag at y Gymraeg yn ddiweddar yw Jac Jolly, myfyrwyr ym Mangor sy’n dod o Dregaron.
“Dydy’r Swyddfa Bost ddim yn fodlon derbyn bod gyda ni hawliau i ddefnyddio’r Gymraeg,” meddai.
“Ond dydyn nhw ddim yn trin staff yn iawn chwaith.
“Fe aethon ni mewn i siarad gyda staff, sydd wedi rhoi gwybod bod y Swyddfa Bost wedi dweud wrthyn nhw y byddai’n rhaid iddyn nhw dalu am wersi Cymraeg eu hunain a dysgu yn eu hamser eu hunain, er mwyn cynnig gwasanaeth Cymraeg.
“Dydy systemau Swyddfa’r Post ddim yn gweithio i staff, cwsmeriaid, y Gymraeg na’n cymunedau.”
Protest flaenorol
Cafodd piced flaenorol ei chynnal fis Hydref y llynedd, yn dilyn sawl cwyn gan aelodau’r Gymdeithas am agwedd Swyddfa’r Post.
Mynnodd Cymdeithas yr Iaith fod hyn yn wasanaeth annigonol, a’i fod yn groes i Fesur Iaith 2011, sy’n sefydlu hawl pawb yng Nghymru i ddefnyddio’r Gymraeg.
“Mae’n hollbwysig o ran hawliau siaradwyr Cymraeg yn Aberystwyth, ac i’r Gymraeg yn gyffredinol, bod pobol yn gallu byw eu bywydau trwy’r Gymraeg,” meddai Jeff Smith, cadeirydd rhanbarth Ceredigion Cymdeithas yr Iaith.
“Ond yn y swyddfa bost yma, mae hawliau siaradwyr Cymraeg yn cael eu herydu a hawliau staff yn cael eu diystyrru, ar yr union adeg pan mae nifer o gwmniau eraill yn gweld buddion busnes o ddarparu gwasanaethau trwy’r iaith.
“Nid yn unig bod diffyg gwasanaethau Cymraeg, ond mae cwsmeriaid yn cael eu trin yn wael wrth geisio cael gwasanaeth Cymraeg.
“Oherwydd hynny, dyma ni, dros drigain mlynedd ers diwrnod protest cyntaf Cymdeithas yr Iaith ym Mhont Trefechan, yn gorfod mynd ati unwaith eto i godi llais dros ddiffyg gwasanaethau a ffurflenni Cymraeg yn swyddfa post Aberystwyth ac erfyn ar y Llywodraeth i warantu ein hawliau.”