Mae cannoedd o gartrefi heb drydan, ac mae rhybuddion am lifogydd yn eu lle yn dilyn Storm Isha ddoe (dydd Sul, Ionawr 21).
Cafodd gwyntoedd cryfion o 90m.y.a. eu cofnodi yng Nghapel Curig yng Nghonwy yn y prynhawn, tra bod y storm ei hun gannoedd o filltiroedd i ffwrdd.
Er bod y rhybudd oren wedi’i ddileu erbyn hyn, bydd rhybudd melyn am wyntoedd yn parhau ledled Cymru tan 12 o’r gloch brynhawn heddiw (dydd Llun, Ionawr 22).
Dim trydan
Roedd dros 3,000 o dai ar draws y wlad wedi’u gadael heb gyflenwad trydan ar un adeg ddydd Sul.
Erbyn heddiw, mae dros 300 o dai yn y canolbarth a’r de yn dal heb drydan, yn ôl map y Grid Cenedlaethol.
Mae nifer o ardaloedd yn parhau heb drydan yn y gogledd hefyd, yn ôl map gan Scottish Power.
Rhybudd llifogydd
Mae’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyfoeth Naturiol Cymru yn dangos bod 22 rhybudd am lifogydd yn eu lle am 10 o’r gloch fore Llun:
- Wysg o Aberhonddu hyd
- Langrwyne
- Yr Afon
- Ddyfrdwy ym Mangor is y Coed
- Dalgylch Ddyfrdwy Isaf
- Gwy ym Mhowys
- Taf
- Dalgylch Hafren Isaf ym Mhowys
- Wysg ym Mhowys
- Wysg yn Sir Fynwy a Chasnewydd
- Rhymni
- Ebwy, Sirhywi a Llwyd
- Cynon
- Tywi Isaf
- Dalgylch Ddyfrdwy Uchaf
- Tywi Uchaf
- Dalgylch Dyfi
- Afonydd Colwyn a Glaslyn ym Meddgelert
- Bran Gwydderig
- Cothi
- Dalgylch Efyrnwy
- Dalgylch Gogledd Gwynedd
- Dalgylchoedd Glaslyn a Dwyryd
- Arfordir Gorllewin Môn
Tarfu ar y trenau a’r awyrennau
Mae sawl llwybr rheilffordd wedi’u heffeithio ar draws y wlad ar hyn o bryd, gan gynnwys rhwng Cyffordd Llandudno a Blaenau Ffestiniog ac rhwng Amwythig ac Abertawe.
Roedd y ddau lwybr yno wedi’u hatal tan o leiaf 9 o’r gloch fore heddiw.
Bu trafferthion i bobol oedd yn hedfan ar draws y Deyrnas Unedig ddoe (dydd Sul, Ionawr 21), gyda nifer o hediadau wedi’u hatal.
Mae Maes Awyr Caerdydd wedi canslo’u teithiau ar gyfer neithiwr a bore heddiw (dydd Llun, Ionawr 22) oherwydd y tywydd.