Mae pont droed dros lyn sy’n boblogaidd â cherddwyr yng Ngwynedd wedi bod ar gau ers bron i flwyddyn a hanner, sy’n cael ei ddisgrifio fel “ergyd” i’r pentref.

Cafodd pont Llyn Trawsfynydd ei chau ym mis Awst 2022, yn sgil pryderon diogelwch “sylweddol” gan fod rhannau o’i strwythur wedi rhydu.

Mae llwybr cerdded yn mynd o amgylch y llyn ac yn croesi’r bont, ac er ei bod hi’n bosib mynd o gwmpas ar hyd y ffordd fawr, mae’n golygu tua milltir ychwanegol o gerdded gyda rhan o’r llwybr ar ochr yr A470.

Cafodd y bont ei hadeiladu ar ddiwedd y 1920au, pan gafodd Llyn Trawsfynydd ei greu i wasanaethu pwerdy hydro Maentwrog, er mwyn caniatáu i blant a thrigolion ffermydd ar ochr bella’r llyn allu cerdded i’r pentref heb orfod mynd o’i amgylch.

“Mae o’n ergyd i’r pentref, mae hi’n denu pobol i’r ardal – mae hi’n bont reit unigryw, mae pobol yn licio mynd am dro drosti,” meddai Iwan Jones, sy’n gweithio yn siop y pentref, wrth golwg360.

“Mae yna lot o bobol sydd ar wyliau yma’n holi am y bont, ond mae o hefyd yn effeithio ar bobol y pentref.

“Pan maen nhw’n mynd am dro holl ffordd y llyn, maen nhw’n gallu torri ar draws, dros y bont ac mewn i’r pentref ac roeddech chi’n cael lot o bobol yma, ond fel rheol rŵan maen nhw’n mynd yr holl ffordd rownd y by-pass a phasio’r pentref.”

Yr un ydy teimlad Manon Jones, oedd yn mynd am dro’n aml dros y bont gyda’i phlant.

“Mae o ychydig bach o niwsans, mae fi a’r plant yn cerdded dipyn, ond dydyn ni ddim yn cerdded gymaint ag oedden ni achos mae o’n golygu fy mod i’n gorfod mynd â thri phlentyn ifanc a’r cŵn ar ochr y ffordd fawr i gyrraedd ochr arall y llyn,” meddai wrth golwg360.

“O’r blaen, roedd o’n saff, roedd y plant yn gallu mynd ar eu beics am dro.”

Mae’r gwyriad o amgylch y llyn yn golygu bod rhaid cerdded ar y rhan hon o’r A470

‘Anhwylus’

Ychwanega Eleri Griffiths, fu’n siarad â golwg360 wrth gerdded rhan o’r daith o amgylch y llyn, fod cau’r bont yn “anhwylus” i nifer.

“Mae o’n stopio dipyn o bobol oedd yn arfer mynd bob un dydd ar eu rownd, mae o’n effeithio ar lesiant pobol,” meddai.

“Mae o’n anghyfleus,” meddai Rhian Jones, oedd yn cerdded efo hi.

“Mae o’n filltir ychwanegol i fynd rownd y ffordd hon, os fysa’r bont yn agored fysa gen ti rownd o ryw ddwy filltir, roedd pobol yn ei wneud o’n fynych.”

‘Angen cydweithio adeiladol’

Yr Awdurdod Datgomisiynu Niwclear (NDA) sy’n berchen ar y bont, a’r Gwasanaethau Adferiad Niwclear (NRS), Magnox gynt, sy’n gyfrifol am y gwaith o’i chynnal a’i chadw, yn ôl adroddiad gan NRS yn manylu ar y sefyllfa.

Er bod y ddau gwmni wedi bod yn ymgynghori â’r gymuned a chynghorwyr lleol, does dim penderfyniad wedi’i wneud ar y gwaith o’i thrwsio hi hyd yn hyn. Yn ôl asesiad cychwynnol gan Magnox, gallai gostio £2.26m i’w thrwsio, a byddai’r gwaith yn cymryd blwyddyn neu ddwy.

Y Cynghorydd Elfed Powell Roberts

Elfed Powell Roberts sy’n cynrychioli’r pentref ar Gyngor Sir Gwynedd, ac mae’n pwysleisio bod angen cydweithio â’r NRS i ddod o hyd i ddatrysiad.

“Maen nhw wedi cau’r bont oherwydd ei bod hi ddim yn saff, ac mae hynny’n bwysig iawn,” meddai wrth golwg360.

“Ond mae hi’n adnodd mor bwysig i’r ardal, mae hi’n hanfodol bwysig fod y bont yma i’r cyhoedd.

“Rhaid i ni ffeindio allan, yn statudol ac yn gyfreithiol, pwy sydd gan gyfrifoldeb am [y bont].

“Rydyn ni wedi cael cyfarfod efo prif weithredwr a chadeirydd yr NRS, ac roedden nhw’n hollol gefnogol o’r peth.

“Maen nhw eisiau cydweithio efo’r gymuned, yn sicr, a rhaid i ni gydweithio efo nhw’n bwyllog ac yn adeiladol.”

‘Rhwystredigaeth gweld dim cynnydd’

Eglura Hefin Jones, cadeirydd Cyngor Cymuned Trawsfynydd, eu bod nhw hefyd yn gweithio gyda’r NRS ar ddyfodol y bont.

“Mae’r bont wedi cau ers mis Awst 2022, bron yn flwyddyn a hanner rŵan, ac mae hi’n bwysig ein bod ni’n cadw hynny’n fyw efo’r NRS.”

Er mwyn gwneud hynny, maen nhw wedi lansio deiseb i dynnu sylw at y mater.

“I bobol sydd ddim yn ymwybodol o be mae’r Cyngor Cymuned yn ei wneud, maen nhw hwyrach yn rhwystredig ein bod ni ddim yn gweld dim cynnydd, ac mae amser yn mynd heibio efo dim byd yn digwydd,” meddai Hefin Jones wrth golwg360.

“Bydd y ddeiseb yn cadw pethau’n fyw yn lleol ac yn rhoi pwysau ar yr NRS i wneud rhywbeth am y bont.”

Pont Llyn Trawsfynydd ynghau

‘Dim penderfyniad’

Does dim penderfyniad wedi’i wneud ynglŷn â dyfodol y bont eto, meddai NRS, gan ddweud eu bod nhw’n cydweithio â’r NDA, y gymuned a phartneriaid i edrych ar opsiynau a chytuno ar ei dyfodol.

“Mae pont droed Trawsfynydd wedi bod yn rhan o’r ardal ers bron i ganrif ar ôl iddi gael ei chodi wrth i’r llyn gael ei ddatblygu,” meddai llefarydd ar ran y corff.

“Roedd y bont yn cael ei harchwilio’n flynyddol ac yn dilyn yr archwiliad diweddaraf ym mis Awst 2022, daethpwyd i’r canlyniad nad oedd y bont bellach yn ddiogel, yn strwythurol, i’w defnyddio ac felly cafodd ei chau’n barhaol yn sgil y dirywiad.

“Rydyn ni’n deall sut effaith mae hyn wedi’i gael ar y gymuned leol, ac wedi’r penderfyniad cafwyd galwadau i atgyweirio ac ailagor y bont.

“Fe wnaeth NRS a’r NDA gytuno i wneud gwaith archwiliol yn y gymuned oedd yn cynnwys dyfodol y bont, ynghyd â themâu allweddol eraill.

“Yn ystod y deunaw mis diwethaf, rydyn ni wedi gweithio’n agos gyda’r gymuned leol i ddeall eu hanghenion ac rydyn ni’n gweithio gyda phartneriaid i edrych ar wahanol opsiynau fydd yn helpu i ddod â buddsoddiad ychwanegol i’r ardal.”