Mae prinder toiledau cyhoeddus ar Ynys Môn yn “dod â lot o banig”, yn ôl dynes leol sy’n byw ag anabledd anweladwy.

Ar hyn o bryd, dim ond 14 o 23 o doiledau cyhoeddus yr ynys sydd ar agor, gyda deg ohonyn nhw dan glo dros yr hydref a’r gaeaf.

Mae hyn yn peri pryder ac embaras i bobol fel Lee Mowlem wrth iddyn nhw geisio dod o hyd i doiled ar yr ynys.

Dywed fod yna “bobol sydd â gallu gwahanol sy’n cael eu hanghofio”, ac mae hi’n galw am agor mwy o doiledau cyhoeddus ar draws yr ynys.

Toriadau

O’r 14 o doiledau cyhoeddus sydd ar agor, Cyngor Sir Ynys Môn sy’n berchen ar bedwar ohonyn nhw, ac mae’r deg arall yn nwylo cwmnïau allanol.

Roedd y Cyngor yn ystyried cau pob un o’u toiledau cyhoeddus mor bell yn ôl â 2013, a hynny er mwyn arbed £3.45m ar gyfer y flwyddyn ariannol ganlynol, a £10m erbyn diwedd 2016.

Cafodd y syniad ei wrthod yn y pen draw, ond mae’n debyg fod nifer o doiledau cyhoeddus wedi’u cau ar yr ynys ers hynny.

Yn 2011, roedd Adran Rheoli Gwastraff Cyngor Sir Ynys Môn yn rheoli 35 o doiledau cyhoeddus o amgylch yr ynys.

O’r 35 o doiledau cyhoeddus hyn, roedd pymtheg ohonyn nhw ar agor drwy gydol y flwyddyn, gyda’r ugain arall yn agor yn dymhorol i ymdopi â’r galw ychwanegol gan y diwydiant twristiaeth.

Yn 2019, nododd tua 50% o ymatebwyr i holiadur fod cyfleusterau toiledau cyhoeddus yr ynys yn diwallu eu hanghenion.

Fodd bynnag, dywedodd 80% o ymatebwyr nad oedden nhw’n hyderus y bydden nhw’n gallu dod o hyd i doiledau oedd yn diwallu anghenion y person maen nhw’n gofalu amdanyn nhw.

Pryder a phyliau o banig wrth geisio dod o hyd i doiledau

Symudodd Lee Mowlem i Lanerch-y-medd ym Môn yn 2019, ac roedd y prinder toiledau cyhoeddus o’i chwmpas yn sioc o gymharu â’r cyfleusterau yng Nghaerefrog, lle’r oedd hi’n byw cyn hynny.

Mae hi’n byw â chyflwr Syndrom Pledren Orweithredol (Overactive Bladder Syndrome, neu OAB), sy’n golygu bod ei bledren yn gwasgu’n sydyn heb reolaeth, hyd yn oed pan nad ydy’r bledren yn llawn.

Mae ei gŵr, Fraser Mowlem, yn byw â chyflwr Colitis, a golyga’r cyflyrau fod yn rhaid iddyn nhw benderfynu i le maen nhw’n teithio, yn ddibynnol ar ba gyfleusterau sydd yno.

Fel arfer, mae’n rhaid i Lee Mowlem ddod o hyd i gaffi neu siop sy’n caniatáu iddi ddefnyddio’u toiledau, gan fod y toiledau cyhoeddus agosaf ar yr ynys yn rhy bell i ffwrdd.

Dywed fod y prinder toiledau cyhoeddus yn golygu ei bod yn aml yn wynebu pryder ac embaras wrth ddod o hyd i doiledau sydd ar agor.

“Fel arfer, os ydw i’n mynd i mewn i gaffi, dw i mewn sefyllfa ddygn,” meddai wrth golwg360.

“Mae fel arfer yn sefyllfa lle nad ydw i am gyrraedd adref mewn amser, felly mae’n rhaid i fi fynd i mewn i gaffi.

“Dw i fel arfer ar fin cael lefel fawr o bryder neu bwl o banig, ac mae’n rhaid cael sgwrs gall efo’r person sy’n gweithio yno.

“Mae’r rhan fwyaf o berchnogion caffis yn tueddu i fod yn gymwynasgar iawn.

“Mae’n gallu bod ychydig yn lletchwith, a dw i bob tro’n teimlo’n ddrwg achos mae yna ciw fel arfer yn disgwyl.

“Mae o i gyd yn dod â lot o banig ac, yn amlwg, mae hynny am ddod â mwy o sylw i chi, felly mae’n gallu bod yn sefyllfa sy’n codi embaras.

“Mae’n rhaid i chi fynd i mewn i siop neu gaffi, ac rydych chi eisoes mewn cyflwr o bryder ac mae’n rhaid i chi roi eich calon a’ch enaid allan yna, dim ond i ofyn am gael defnyddio’r toiled.

“Mae’n boncyrs mewn gwirionedd, dydy?”

Yn ôl Lee Mowlem, mae gormod o anghenion dynol sylfaenol yn cael eu hanwybyddu, gan gynnwys toiledau cyhoeddus.

“Mae’n weithred ddynol arferol, ac mae yna bobol sydd â gallu gwahanol sy’n cael eu hanghofio,” meddai.

“Mae penderfyniadau’n cael eu gwneud am bethau sydd y tu hwnt i reolaeth pleidleiswyr, ac mae’r pethau maen nhw eu heisiau’n sylfaenol, fel cyfleusterau hawliau dynol sylfaenol, yn cael eu hanwybyddu.

Sefydlodd hi ddeiseb ar wefan y Cyngor er mwyn dod â’r broblem i sylw pobol Ynys Môn, ond chafodd y ddeiseb mo’i chymeradwyo ar gyfer y wefan.

Mapio toiledau

Un syniad oedd gan Lee Mowlem oedd mapio toiledau cyhoeddus yr ynys, fel mae apiau yn ei wneud mewn mannau eraill o’r Deyrnas Unedig, gyda diweddariadau ac oriau agor cywir.

Byddai hyn yn galluogi pobol leol ac ymwelwyr i ganfod y toiledau agosaf gyda llai o bryder.

“Fe wnaeth sylwadau ar bost mewn grŵp ar Facebook ei wneud o’n eithaf amlwg fod yna bobol gyda llawer o anableddau cudd neu anableddau sydd jest ddim yn gadael y tŷ ac yn mynd allan ddim mwy,” meddai.

“Yn y fath o gymuned dw i ynddi gydag Overactive Bladder Syndrome, mae yna rywbeth rydym yn ei alw’n fapio toiledau.

“Mae’n golygu, pan fyddwch chi’n mynd allan, rydych chi’n gwneud ychydig o waith ymchwil os yw’n lle newydd i chi, fel bod gennych chi ryw fath o syniad o le mae’r toiledau i gyd.

“Dyma sy’n rhaid ei wneud – mae’n rhaid meddwl a threfnu o flaen llaw.”

Y cyngor yn gofyn am gymorth gan gymunedau a busnesau lleol

Yn ôl llefarydd ar ran Cyngor Sir Ynys Môn, mae nifer o doiledau ar draws yr ynys wedi cael eu huwchraddio dros ddwy flwyddyn ariannol, yn dilyn cais llwyddiannus gan y Cyngor Sir am arian grant gan Lywodraeth Cymru.

Aeth yr arian tuag at uwchraddio yn y toiledau canlynol:

  • Benllech (2022/23)
  • Bae Trearddur (2022/23)
  • Porth Swtan (2022/23)
  • Porth Dafarch (2022/23)
  • Biwmares (2023/24)
  • Rhosneigr (2023/24)
  • Traeth Bychan (2023/24)
  • Moelfre (2023/24)

Yn ychwanegol, bydd estyniad yn cael i godi fel rhan o’r gwaith adnewyddu’r toiledau ym Moelfre ar gyfer toiled anabl.

Doedd y ddarpariaeth yma ddim ar gael cyn hyn.

Yn ôl y Cyngor, oddeutu £250 i £300 yr wythnos yw cost bresennol cadw un toiled cyhoeddus ar agor.

Oherwydd yr hinsawdd ariannol a chostau chwyddiant, maen nhw’n rhagweld y bydd cost wythnosol agor a chynnal toiledau cyhoeddus yn cynyddu yn ystod y flwyddyn ariannol 2024/25.

“Ein gobaith yw y bydd y Cyngor Sir mewn sefyllfa i barhau i gynnal y pymtheg toiled sy’n weddill ar yr Ynys yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf,” meddai llefarydd.

“Rydym hefyd yn bwriadu cyfathrebu’n rhagweithiol gyda chymunedau a busnesau lleol i’w gwahodd i’n cynorthwyo i gynnal a chadw toiledau cyhoeddus ac ystyried agor am gyfnodau hirach yn ystod y flwyddyn.”