Mae angen i Lywodraeth Cymru weithredu ar fwy o frys wrth wella triniaethau i bobol sydd ag anhwylderau bwyta, yn ôl yr elusen Beat.

Yn ôl yr elusen anhwylderau bwyta, mae angen cwtogi amseroedd aros am driniaeth ac mae angen i Gymru ddyfeisio cynllun i wella’r sefyllfa.

Fe wnaeth Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant Cymru roi diweddariad ar eu gwasanaethau anhwylderau bwyta yn y Senedd yr wythnos ddiwethaf.

Dywedodd Lynne Neagle fod arweinydd clinigol cenedlaethol newydd wedi cael ei benodi ar gyfer anhwylderau bwyta yn y flwyddyn ddiwethaf, a hwnnw’n gweithio gyda byrddau iechyd ac yn canolbwyntio ar ymyrraeth gynnar.

Fel rhan o’r ateb dros dro, mae wyth gwely anhwylderau bwyta dynodedig i oedolion ar gael yng Nghymru hefyd, gyda’r potensial i gomisiynu cymorth ar gyfer pymtheg o bobol os oes angen.

“Ein nod yw cyflawni ein hymrwymiad i ddarparu gofal yn nes at adref i’r bobl hynny a fyddai wedi derbyn gofal mewn unedau arbenigol yn Lloegr yn y gorffennol,” meddai Lynne Neagle, gan ychwanegu bod rhwydwaith gweithredu clinigol ar gyfer anhwylderau bwyta wedi cael ei sefydlu dros y flwyddyn.

“Mae’r mwyafrif helaeth o bobl y mae angen gofal cleifion mewnol arbenigol arnynt bellach yn cael y gofal hwnnw yng Nghymru.”

‘Mwy o frys’

Fodd bynnag, dywed Jo Whitfield, arweinydd elusen Beat yng Nghymru, fod angen arweinyddiaeth a chyllid nawr yn fwy nag erioed.

“Mae trin anhwylderau bwyta mor fuan â phosib yn hollbwysig, felly mae’n gam cadarnhaol fod Llywodraeth Cymru wedi penodi arweinydd clinigol ar gyfer anhwylderau bwyta a’u bod nhw’n cefnogi cyflwyno FREED (ymyrraeth cyfnod cyntaf ac ymyrraeth gynnar gyflym),” meddai.

“Y cyflymaf y gall pobol gael mynediad at gymorth, y gorau yw eu siawns o wella’n iawn.

“Ond, o siarad gyda phobol am ein llinell gymorth, rydyn ni’n gwybod ei bod hi dal yn anodd cael mynediad at driniaeth anhwylderau bwyta ledled y wlad, felly rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu ar fwy o frys.

“Rydyn ni angen i Lywodraeth Cymru gyhoeddi cynllun i gyrraedd y weledigaeth sy’n cael ei gosod yn Adolygiad Gwasanaeth Anhwylderau Cymru 2018, i ofalu am 60,000 o bobol ag anhwylderau bwyta ledled Cymru.

“Mae’r angen am arweinyddiaeth a chyd-drefniant – ynghyd â’r cyllid sydd ei angen – yn fwy nag erioed, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at glywed am gynlluniau hirdymor Llywodraeth Cymru.”

‘Blaenoriaeth’

Yn ei datganiad i’r Senedd, dywedodd Lynne Neagle eu bod nhw’n awyddus i atal pobol rhag gwaethygu i’r lefel pan maen nhw angen gofal mewnol, a nododd fod gwaith eisoes ar y gweill ym myrddau iechyd Betsi Cadwaladr, Aneurin Bevan a Chaerdydd a’r Fro.

“Mae gwella gwasanaethau anhwylderau bwyta yn flaenoriaeth i mi, ac rwy’n disgwyl gweld ein gwasanaethau’n parhau i ddatblygu ac ehangu,” meddai’r Dirprwy Weinidog.

“Mae ymyrraeth gynnar yn bwysig, ac yn ystod y flwyddyn nesaf bydd nifer o fyrddau iechyd yn gweithio gyda’r arweinydd clinigol cenedlaethol i edrych ar y posibiliadau o ran gweithredu model FREED, sef ymyrraeth cyfnod cyntaf ac ymyrraeth gynnar gyflym mewn achosion o anhwylderau bwyta.

“Mae hwn yn fodel gwasanaeth ymyrraeth gynnar a phecyn gofal a dargedir yn benodol at bobol ifanc 16 i 25 oed, ac  sydd wedi eu teilwra ar gyfer y cyfnod datblygu a salwch, ac sydd wedi ei gynllunio i leihau hyd amser anhwylderau bwyta heb eu trin a gwella canlyniadau clinigol.

“Rwy’n disgwyl y bydd ein gwasanaethau’n parhau i ddatblygu, gan ddarparu canlyniadau a phrofiadau gwell i bobol.

“Fodd bynnag, mae anhwylderau bwyta yn gymhleth, heb unrhyw achos cyffredin unigol.

“Felly, mae’n hanfodol ein bod yn parhau i ddefnyddio dull amlochrog, gan gynnwys cefnogaeth mewn perthynas â delwedd y corff, effaith y cyfryngau cymdeithasol, a’r angen i fwyta’n iach.”

Ychwanegodd y bydd hi’n nodi’r camau tymor hirach i wella’r cymorth wrth gyhoeddi strategaeth iechyd meddwl ddrafft newydd.