Mae crwner wedi penderfynu bod Christopher Kapessa, 13, wedi marw ar ôl cael ei wthio’n fwriadol i mewn i afon.
Cafodd y digwyddiad yn Rhondda Cynon Taf yn 2019 ei alw’n weithred “beryglus” o “chwarae cast”.
Yn ôl David Regan, roedd tystiolaeth i’r cwest gan Jayden Pugh “yn syml iawn yn anwir”, ar ôl iddo fe ddweud bod Christopher Kapessa wedi llithro a chwympo.
“Synnwyr o hwyl” oedd y tu ôl i’r weithred gan Jayden Pugh, sydd bellach yn 19 oed, meddai’r crwner, ddywedodd nad oedd unrhyw “faleisus” yn y digwyddiad.
Doedd neb wedi deall nad oedd y llanc yn gallu nofio, meddai, a doedd dim tystiolaeth mai hiliaeth oedd y tu ôl i’r weithred chwaith.