Mae Senedd yr Alban yn ceisio barn y cyhoedd am ddeddfwriaeth fyddai’n rhoi statws swyddogol i ieithoedd Gaeleg yr Alban a Sgots yr Alban, yn ôl The National.
Daw’r alwad gan y Pwyllgor Addysg, Plant a Phobol Ifanc wrth iddyn nhw graffu ar Fil Ieithoedd yr Alban.
Byddai’r ddeddfwriaeth yn gosod dyletswydd ar Lywodraeth yr Alban a chyrff eraill i warchod y ddwy iaith.
Mae’r ymgynghoriad ar gael yn y ddwy iaith dan sylw, Iaith Arwyddion Prydeinig (BSL) a Saesneg, ond mae croeso i bobol ymateb mewn unrhyw iaith.
Yn ôl arweinydd y pwyllgor, gallai deddfwriaeth o’r fath gael “effaith ar gymunedau ledled yr Alban” ac maen nhw am geisio barn unigolion, sefydliadau a chyrff cyhoeddus.
Y ddeddfwriaeth
Mae’r ddeddfwriaeth dan sylw’n nodi bod rhaid i Lywodraeth yr Alban hyrwyddo Gaeleg yr Alban a Sgots yr Alban mewn ysgolion, a byddai gan weinidogion bwerau i osod Safonau, yn debyg i Safonau’r Gymraeg, ym maes addysg.
Byddai hefyd yn nodi ym mle mae cadarnleoedd yr ieithoedd, hynny yw yr ardaloedd lle mae o leiaf 20% o’r boblogaeth yn siarad Gaeleg, ardaloedd sydd â chysylltiad cryf â’r ieithoedd, ardaloedd lle mae addysg ar gael yn y ddwy iaith, neu ardaloedd sy’n cynnal gweithgareddau i hybu’r ieithoedd.
Byddai’r ddeddfwriaeth hefyd yn newid cyfrifoldebau Bòrd na Gàidhlig, neu Fwrdd yr Iaith Aeleg, o ran hyrwyddo datblygiad yr iaith, ac yn rhoi’r hawl i weinidogion greu canllawiau ar gyfer cyrff cyhoeddus i’w helpu nhw i hyrwyddo a chefnogi’r ddwy iaith.
Byddai gofyn i Bòrd na Gàidhlig roi adborth o ran eu cynnydd wrth weithredu Strategaeth Iaith a mesur cydymffurfiaeth cyrff cyhoeddus.
Yn ôl Cyfrifiad 2011, mae 1.1% o boblogaeth yr Alban (58,000 o bobol) yn medru’r iaith Aeleg, a mwy nag 1.5m yn medru Sgots.
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ymatebion ysgrifenedig ar ffurf holiadur yw Mawrth 8.