Mae gan Ardal Weinidogaeth Bro Eryri ficer newydd, ar ôl bron i chwe mlynedd heb ficer.

Mae Bro Eryri yn cynnwys ardaloedd fel Penisa’rwaun, Llanberis a Nant Peris ym Mharc Cenedlaethol Eryri.

Cafodd Naomi Starkey ei hordeinio yn 2014, a daeth hi i weinidogaeth eglwysig o gefndir ym maes cyhoeddi a newyddiaduraeth.

Treuliodd hi ddeunaw mlynedd yn olygydd gyda Chymrodoriaeth Darllen y Beibl (BRF), yn cynhyrchu llyfrau a nodiadau darllen y Beibl a hefyd yn ysgrifennu rhai ei hun.

Mae cyfleoedd i ysgrifennu yn parhau gydag adolygiadau llyfrau achlysurol ar gyfer y Church Times, set flynyddol o nodiadau darllen y Beibl ar gyfer BRF, yn ogystal â sgriptiau darlledu achlysurol ar gyfer gorsafoedd y BBC, Radio Wales a Radio Cymru.

Dechreuodd ei diddordeb yng Nghymru a’r Gymraeg yn ystod gwyliau yng ngogledd Cymru yn 2009.

Dechreuodd ddysgu’r iaith cyn symud i’r canolbarth yn 2011, ond prin y byddai wedi meddwl ar y pryd y byddai’n offeryn dyddiol ar gyfer bywyd a gweinidogaeth yn y pen draw.

Mae hi’n awyddus i annog dysgwyr i fagu hyder wrth siarad a defnyddio’r Gymraeg, ar ôl elwa’n fawr ar y math hwn o anogaeth dros y blynyddoedd.

Yn ddiweddar, mae hi wedi ysgwyddo cyfrifoldeb ehangach dros yr Eglwys yng Nghymru fel dewisydd ar gyfer hyfforddiant gweinidogol; ym mis Hydref 2023, cafodd ei phenodi’n ganon Eglwys Gadeiriol Bangor.

Ers 2019, mae Naomi Starkey wedi bod yn Arweinydd Ardal Weinidogaeth Bro Padrig ar Ynys Môn, gan ofalu am saith eglwys ar draws gogledd-orllewin Ynys Môn, o Fae Cemaes i Lanfaethlu.

Er gwaethaf amhariad y pandemig, mae hi wedi mwynhau datblygu bywyd addoli Bro Padrig.

Mae grwpiau bach yn cyfarfod yn rheolaidd ar gyfer gweddi dawel a hefyd i astudio a myfyrio.

Mae gwasanaeth coffa i deuluoedd mewn profedigaeth wedi dod yn ddigwyddiad blynyddol; mae gwasanaethau coffa wedi nodi rhai o’r llongddrylliadau hanesyddol yn yr ardal; a diolchgarwch y cynhaeaf yng Nghemaes bellach ar ffurf bendith anifail anwes.

Mae Naomi Starkey yn eiriolwr dros gadw adeiladau eglwysig ar agor gymaint â phosibl, gan helpu pobol leol i gysylltu â’r adeilad a chroesawu ymwelwyr.

Mae taflenni gweddi, llyfrynnau ac arweinlyfrau cofrodd wedi bod yn amhrisiadwy wrth helpu ymwelwyr i ddod yn bererinion, gan ddysgu mwy o’r hanes ysbrydol yn ogystal â’r bensaernïaeth.

Mae pob un o’r tair eglwys leiaf a mwyaf anghysbell ym Mro Padrig bellach wedi’i dynodi’n ‘fetws’, gan ddefnyddio’r gair Cymraeg traddodiadol i atgoffa addolwyr ac ymwelwyr fel ei gilydd mai ’tai gweddi’ yw’r rhain, ar agor 24/7 i bobol ddod i weddïo neu i gael llonyddwch.

‘Moment allweddol i Fro Eryri’

Dywed Esgobaeth Bangor fod ei phenodiad yn “foment allweddol i Fro Eryri, gan symboleiddio gobaith ac ymrwymiad wedi’i adfywio i dyfu’r eglwys yn yr Ardal Weinidogaeth”.

“Rwy’n teimlo’n gyffrous oherwydd bydd gan bentrefi Bro Eryri offeriad plwyf llawn amser am y tro cyntaf ers bron i chwe blynedd,” meddai David Parry, Archddiacon Bangor.

“Mae pawb wedi gweithio’n galed i gynnal gweinidogaeth leol ac rydym yn barod i symud ymlaen gyda chyffro mawr i’r dyfodol.

“Bydd Naomi yn dod ag egni ffres, syniadau newydd, ac arweinyddiaeth gref i Ardal Weinidogaeth ac mae’n barod i rannu newyddion da am Grist gyda hyd yn oed mwy o bobol.

“Mae hyn yn newyddion da iawn, mewn gwirionedd.”

‘Breintiedig’

“Rwy’n teimlo’n freintiedig o gael fy mhenodi i’r rôl newydd hon ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda chymunedau Bro Eryri,” meddai Naomi Starkey.

“Bydd hi’n anodd ffarwelio â phobl Bro Padrig ac rydw i mor ddiolchgar iddyn nhw am eu cefnogaeth a’u caredigrwydd ac am bopeth rydyn ni wedi’i ddysgu gyda’n gilydd.”