Mae 98% o feddygon iau Cymru wedi pleidleisio o blaid streicio fis nesaf.

Daeth y bleidlais i ben am 12 o’r gloch heddiw (dydd Llun, Rhagfyr 18), ac roedd 65% o’r meddygon iau oedd yn gymwys i bleidleisio yng Nghymru wedi bwrw eu pleidlais.

Gallai’r streic 72 awr weld dros 3,000 o feddygon sydd â hyd at unarddeg o flynyddoedd o brofiad y tu allan i’r ysgol feddygol yn rhoi’r gorau i weithio mewn ysbytai a meddygfeydd ledled Cymru i fynd ar drywydd “bargen decach” ar gyfer eu gwasanaeth.

Gwnaeth Pwyllgor Meddygon Iau Cymru benderfynu gofyn i aelodau bleidleisio ym mis Awst, ar ôl cael cynnig cyflog is na chwyddiant arall o 5% – y gwaethaf yn y Deyrnas Unedig, ac yn is na’r hyn roedd y DDRB, y corff adolygu ar gyfer Tâl Meddygon a Deintyddion, yn ei argymell.

Cafodd y cynnig ei gyflwyno i’r meddygon bedwar mis ar ôl i Lywodraeth Cymru ddatgan yn wreiddiol ym mis Ebrill y bydden nhw’n ymrwymo i’r egwyddor o adfer cyflogau.

Dim dewis

“Mae’r bleidlais hon yn dangos yn glir gryfder y teimlad,” meddai Dr Oba Babs-Osibodu a Dr Peter Fahey, cyd-gadeiryddion Pwyllgor Meddygon Iau BMA Cymru.

“Rydym yn teimlo’n rhwystredig, mewn anobaith ac yn ddig ac rydym wedi pleidleisio’n glir i ddweud, yn enw ein proffesiwn, na allwn ac na fyddwn yn derbyn unrhyw erydiad pellach o’n cyflog.

“Mae ein haelodau wedi cael eu gorfodi i wneud y penderfyniad anodd hwn oherwydd bod meddygon iau yng Nghymru wedi profi toriad cyflog o 29.6% mewn termau real dros y pymtheg mlynedd diwethaf.

“Bydd meddyg sy’n dechrau ei yrfa yng Nghymru yn ennill cyn lleied â £13.65 yr awr, ac am hynny gallen nhw fod yn cyflawni gweithdrefnau achub bywyd ac yn ysgwyddo lefelau enfawr o gyfrifoldeb.

“Nid ydym yn gofyn am godiad cyflog – rydym yn gofyn am adfer ein cyflog yn unol â chwyddiant i lefelau 2008, pan ddechreuon ni dderbyn toriadau cyflog mewn termau real.

“Mae angen i gyflog fod yn deg ac yn gystadleuol gyda systemau gofal iechyd eraill ledled y byd i gadw a recriwtio meddygon a staff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol i ddarparu gofal mae mawr ei angen.

“Ar ben hyn, mae meddygon iau yn profi amodau sy’n gwaethygu, ac felly mae meddygon bellach yn edrych i adael Cymru i ddatblygu eu gyrfaoedd ar gyfer gwell tâl ac ansawdd bywyd gwell mewn mannau eraill.

“Nid yw’n benderfyniad sydd wedi’i wneud yn ysgafn.

“Nid oes unrhyw feddyg eisiau gweithredu diwydiannol, ond nid ydym wedi cael unrhyw ddewis.

“Mae meddygon eisoes yn pleidleisio gyda’u traed ac yn gadael y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, ac rydym mewn cylch dieflig o brinder staffio sy’n gwaethygu, a gwaethygu gofal cleifion.”

Llafur heb ‘wneud digon i osgoi’r streiciau’

“Mae’n glir nad ydy’r Llywodraeth Lafur wedi gwneud digon i osgoi’r streiciau fydd yn achosi aflonyddwch ar ôl cyfnod prysur y Nadolig a’r tu hwnt,” meddai Russell George, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig.

“Mae cleifion yng Nghymru eisoes yn dioddef amseroedd aros sylweddol am driniaeth, mewn adrannau damweiniau ac achosion brys ac am ambiwlansys.

“Gyda’r newyddion y bore yma fod tacsis yn cael eu defnyddio i gymryd lle ambiwlansys yng ngogledd Cymru, a Llafur yn methu eu targed yn barhaus o ddileu arosiadau annynol o ddwy flynedd, bydd yr amhariad hwn yn rhwystr bellach wrth i bwysau’r gaeaf gynyddu.

“Byddwn yn awgrymu wrth weinidogion Llafur yn y Senedd eu bod yn parcio eu prosiectau bach ac yn gwario swm canlyniadol Barnett llawn ar y gyllideb iechyd, oherwydd am bob £1 sy’n cael ei wario yn Lloegr, mae Cymru’n derbyn £1.20, ond dim ond £1.05 mae Llafur yn ei wario ar y Gwasanaeth Iechyd yma yng Nghymru.”

‘Dim syndod’

“Mae meddygon iau wedi gweld eu cyflog yn cael ei erydu’n barhaus, ac mae eu tâl bron i draean yn llai mewn termau real heddiw nag yr oedd o bymtheg mlynedd yn ôl,” meddai Mabon ap Gwynfor, llefarydd iechyd Plaid Cymru.

“Dydy’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn ddim byd heb ei weithlu ymroddedig, ac mae’r gweithlu hwnnw’n haeddu cael ei ad-dalu’n iawn a’r amgylchedd gweithio iawn er mwyn darparu’r gofal gorau fedran nhw.

“Efo chwyddiant yn dal i redeg ar bron i 6%, mae cynnig cyflog o 5% yn doriad arall mewn termau real, a dydy hi ddim yn syndod fod aelodau’r BMA wedi penderfynu gweithredu.

“Dydy’r penderfyniad i weithredu’n ddiwydiannol ddim yn un y byddan nhw wedi’i gymryd ar chwarae bach, ac mae’n siom aruthrol gweld Llywodraeth Lafur yng Nghymru’n methu â deall difrifoldeb y sefyllfa.

“Mae meddygon iau yn Lloegr mewn anghydfod hefyd, sy’n cael effaith andwyol ar ddeilliannau cleifion yma yng Nghymru hefyd.

“Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gwrthod ymateb yn bositif oherwydd eu crwsâd ideolegol yn erbyn gwasanaethau cyhoeddus a lles pawb.

“Mae hyn yn cael effaith ar Gymru.”