Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a gwasanaethau rheng flaen cynghorau, gan gynnwys ysgolion a gofal cymdeithasol, fydd yn cael eu blaenoriaethu yng Nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru, fydd yn cael ei chyhoeddi’n ddiweddarach heddiw (dydd Mawrth, Rhagfyr 19).

Daw’r Gyllideb ddrafft ar adeg pan fod Cymru’n wynebu ei sefyllfa ariannol fwyaf anodd ers dechrau datganoli.

O ganlyniad i chwyddiant, mae cyllideb gyffredinol Cymru’n werth £1.3bn yn llai mewn termau real ers iddi gael ei gosod yn 2021.

Dydy setliad Cymru, sy’n cael ei ddarparu’n bennaf gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar ffurf grant bloc, ddim yn ddigonol i ymateb i’r pwysau eithafol mae gwasanaethau cyhoeddus, busnesau a phobol yn eu hwynebu.

Does dim cynnydd wedi bod gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gydnabod y cyd-destun economaidd presennol, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Mae’r gweinidogion wedi wynebu dewisiadau dybryd a phoenus gan eu bod wedi ail-lunio’r cynlluniau gwariant mewn modd radical i ganolbwyntio wrth neilltuo cyllid ar y gwasanaethau cyhoeddus craidd hynny sydd bwysicaf i bobol.