Mae Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, wedi mynegi pryderon am wreig-gasineb ar-lein.

Daw hyn ar ôl i’r Prif Weinidog Mark Drakeford fynegi ei bryderon ei hun mai gwreig-gasineb yw’r rhwystr fwyaf sy’n atal atal menywod rhag mentro i’r byd gwleidyddol yng Nghymru.

Mae Jane Dodds wedi croesawu ei sylwadau, gan ddweud ei bod hi’n gwybod “o brofiad personol pa mor flinderus yw derbyn camdriniaeth erchyll ar-lein”.

“Fel yr unig arweinydd benywaidd ar blaid wleidyddol yng Nghymru, dw i’n gwybod yn iawn am beryglon y cyfryngau cymdeithasol pan ddaw i gamdriniaeth gan lwfrgwn sy’n cuddio y tu ôl i’w sgriniau,” meddai.

“Mae’r ymateb mae gwleidyddion benywaidd yn ei gael gan rai carfanau ar y cyfryngau cymdeithasol yn gallu bod yn llethol yn emosiynol ac yn feddyliol.

Dywed fod y rhai sy’n gyfrifol “yn cynrychioli’r elfen waethaf o’n cymdeithas”, a hwythau’n “fwystfilod heb wyneb, heb ddim byd gwell i’w wneud â’u bywydau na lledaenu eu diflastod a’u casineb ymhlith eraill”.

Galw am weithredu

“Rhaid gwneud mwy i atal y trolls hyn; tra bod nifer o’u sylwadau’n ddim byd mwy na bygythiadau gwag, gall yr effaith feddyliol maen nhw’n ei chael fod yn ddifrifol,” meddai Jane Dodds wedyn.

“Rhaid i ni wneud mwy i warchod gwleidyddion benywaidd rhag camdriniaeth ar-lein niweidiol, tra ein bod ni ar yr un pryd yn annog mwy o fenywod i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth.”