Mae deiseb wedi’i sefydlu yn sgil y newyddion fod Cyfoeth Naturiol Cymru’n bwriadu cau Canolfan Ymwelwyr Gwarchodfa Natur Ynyslas ar afon Ddyfi.
Mae’r ddeiseb i Senedd Cymru, gafodd ei sefydlu gan Kim Williams, wedi denu nifer sylweddol o lofnodion hyd yn hyn, gan nodi bod y penderfyniad i gau’r ganolfan wedi’i wneud heb ymgynghoriad, heb ddarpariaeth arall ar er mwyn amddiffyn y warchodfa, ac y bydd yn arwain at golli swyddi lleol.
Yn ôl y ddeiseb, dylai Cyfoeth Naturiol Cymru fod “yn gwarchod bywyd gwyllt, ac nid ei ddinistrio”.
Mae 400,000 ymwelwyr yn defnyddio’r ganolfan bob blwyddyn.
Yn ôl y ddeiseb, mae bywyd gwyllt a chynefinoedd y warchodfa natur yn fregus, ac mae angen eu hamddiffyn rhag y nifer fawr o ymwelwyr, cerbydau a chŵn, os ydyn ni am osgoi colli rhagor o fioamrywiaeth yng Nghymru.
Mae’r ganolfan yn darparu gwybodaeth ac addysg i bob ymwelydd, er mwyn iddyn nhw ddeall pam fod y lle yn arbennig, a pha effaith mae eu gweithredoedd yn ei chael.
At hynny, mae’n fan cyswllt cymdeithasol i’r gymuned leol, ac yn fan lle mae byd natur yn hygyrch i’r rheini sydd â symudedd cyfyngedig.
Mae presenoldeb staff Cyfoeth Naturiol Cymru drwy gydol y flwyddyn yn y warchodfa yn golygu bod yna rwystr naturiol i ymddygiad gwrthgymdeithasol (cynnau tanau, tipio anghyfreithlon, mynediad i gerbydau), meddai’r ddeiseb, gan ychwanegu bod modd mynd i’r afael yn gyflym ac yn effeithlon ag unrhyw achosion o’r fath.
Yn ôl y ddesieb mae rheolaeth effeithiol ar ymwelwyr yn Ynyslas yn hanfodol er mwyn amddiffyn y Warchodfa Natur a’i bywyd gwyllt.
Bywyd gwyllt
Dydy Kim Williams ddim yn credu mai cau’r Ganolfan Ymwelwyr yw’r penderfyniad cywir am sawl rheswm.
“Mae Twyni Tywod, llaciau Twyni, Morfa Heli Traeth a Chyforgors Iseldir yno,” meddai wrth golwg360.
Mae’r lle yn bwysig oherwydd ei fod yn un o’n Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol.
“Mae’n lle i bobol gysylltu â natur.
“Mae’n brydferth ac yn wyllt.
“Mae’n anodd ei roi mewn geiriau.
“Mae’n lle unigryw.
“Rwy’n deall ei fod yn benderfyniad ariannol.
“Oherwydd ei bod yn denu cymaint o ymwelwyr bob blwyddyn, mae angen rheoli ymwelwyr ar y safle i warchod y bywyd gwyllt, yn enwedig adar sy’n nythu ar y ddaear, i atal tipio anghyfreithlon a thanau, ac i addysgu pobol.”
Cymuned “ddeuddeg mis o’r flwyddyn”
Yn ôl Kim Williams, dydy Cyfoeth Naturiol Cymru heb ymgysylltu â’r Cyngor na’r gymuned leol.
“Maen nhw wedi ei wneud heb unrhyw ymgynghoriad o gwbl,” meddai.
“Fel cymuned, rydym eisiau bod yn gymuned ddeuddeg mis o’r flwyddyn.
“Dydyn ni ddim am gael gwasanaethau i dwristiaid yn unig.
“Mae hon yn gymuned fach fyw sydd angen yr holl gyfleusterau y gall eu cael.”
Gobaith y ddeiseb
Yn ôl Kim Williams, gobaith y ddeiseb yw denu sylw, sicrhau ymgynghoriad, a chynnig datrysiad tymor hir fel bod y Ganolfan Ymwelwyr yn aros ar agor yn y tymor hir.
“Rwy’n gobeithio ei bod yn denu sylw’r Senedd a phawb arall fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn ceisio gwneud hyn,” meddai wedyn.
“Hefyd, ei fod yn agor proses ymgynghori, ein bod yn cadw’r ganolfan ar agor mewn ffordd sy’n edrych ymlaen, fel nad ydym yn y sefyllfa hon eto ymhen pum mlynedd.”
Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Gyfoeth Naturiol Cymru.