Yn ôl Llafur a Phlaid Cymru, mabwysiadu’r rhestr gaeedig yw’r unig ffordd o ehangu’r Senedd. Ond mae rhai’n pryderu y byddai’n dwyn y pŵer oddi wrth y pleidleiswyr…

O dan y cynlluniau i ddiwygio’r Senedd byddai’r nifer o Aelodau yn cynyddu o 60 i 96, a golyga’r newid mewn niferoedd y bydd yn rhaid i’r Senedd fabwysiadu newidiadau i’w system bleidleisio hefyd.

Gyda’r system bleidleisio bresennol, mae gan etholwyr y gallu i ddewis ymgeiswyr yn ôl blaenoriaeth.