Bu yn flwyddyn brysur i’r gantores, yn llawn “garddio a gigs”. Ac mae hi wedi recordio albwm mewn tair wythnos…

Ers ail-recordio caneuon ei record gyntaf, Smôcs, Coffi a Fodca Rhad, y llynedd (i nodi ugain mlynedd ers rhyddhau’r gwreiddiol yn 2002), mae calendr gigio Meinir Gwilym, y canwr-gyfansoddwr o Langristiolus ym Môn, wedi prysuro. Ac ydi, mae hi’n gêm.