Mae Brenin Lloegr wedi dileu anrhydedd Paula Vennells, cyn-bennaeth Swyddfa’r Post, yn sgil ei rhan yn y sgandal.

Roedd hi eisoes wedi cyhoeddi ei bwriad i ildio’r CBE yn dilyn drama deledu’n adrodd hanes y rhaglen Horizon oedd wedi arwain at gyhuddo cannoedd o is-bostfeistri ar gam o dwyll ariannol.

Cafodd nifer ohonyn nhw eu carcharu, ac fe wnaeth rhai ohonyn nhw ladd eu hunain, ond derbyniodd Paula Vennells y CBE yn 2019.

Ond yn ôl y Swyddfa Gabinet, mae hi’n un o 14 o bobol ers mis Awst y llynedd sydd “wedi dwyn anfri ar y system anrhydeddau”, ac roedd mwy nag 1.2m o bobol wedi llofnodi deiseb yn galw arni i ildio’r anrhydedd.

Cafodd y cam hwnnw ei gefnogi gan Downing Street hefyd.

Mae camau ar y gweill i ddileu euogfarnau’r holl is-bostfeistri gafwyd yn euog.