Mae’r gyfres yma’n bwrw golwg ar atgofion rhai o wynebau cyfarwydd Cymru am fwyd a sut mae hynny wedi dylanwadu eu harferion bwyta heddiw. Y cynhyrchydd a’r actor o Fangor, Gwion Tegid, sy’n rhannu ei atgofion bwyd yr wythnos hon. Mae’n ymddangos yn y gyfres newydd Bariau ar S4C, ac yn cyd-redeg cwmni cynhyrchu rhaglenni dogfen DocShed yn y Felinheli. Mae ganddo ddau o blant gyda’i bartner, y ffotograffydd Kristina Banholzer…

Fues i’n ffodus iawn pan oeddwn i’n ifanc i gael mynd ar nifer o wyliau a chael blasu bwydydd gwahanol y byd. Un o fy atgofion cynharaf o wir fwynhau pryd oedd ym Mhortiwgal. Mewn pentra ’sgota oeddwn i gyda fy nheulu, ond fedra i’m bod yn rhy saff lle – dim ond pump neu chwech oeddwn i, tybiwn i. Mi oedden ni’n cael bara hyfryd ar y bwrdd cyn y pryd gyda pâté eog. Ma’r blas hallt yna yn dal i apelio i mi pan fyddai’n mynd i wledydd Môr y Canoldir. Ac yn brif gwrs fe ges i swordfish am y tro cyntaf, gyda llwyth o lemon. Anghofia’i fyth mor pryd yna!

Gwion Tegid gyda’i deulu yn bwyta pysgod yn Tenerife

Mae brechdan fish fingers mam ar dorth sâl wen, efo digon o Salad Cream, yn dal i fod yn un o fy ffefrynnau i. Mam oedd yn coginio’r prydau mwy traddodiadol, ar wahân i’r chicken chasseur paced diawledig oedden ni’n gael o bryd i’w gilydd. Mi oedd ei phrydau traddodiadol hi’n comforting – mae hi’n gwneud cauli-cheese a stwffin gwych! Dad oedd yn dueddol o drio coginio prydau mwy arbrofol, a hynny fel arfer ar ôl gwylio Keith Floyd ar y teledu. Mi ges i ddechrau coginio’n ifanc ganddyn nhw oherwydd bod gen i wir ddiddordeb mewn bwyd – ac i osgoi’r chicken chasseur, beryg! Erbyn i mi fod yn dair ar ddeg, mi oeddwn i’n paratoi prydau yn gyson.

Yn ddigon od, mi ydw i’n cael mwy o gysur gan fwydydd Indiaidd neu Thai nag o fwyd ‘Prydeinig’. Er, pan dw i’n hungover, does fawr gwell na fish a chips!

Papas arrugadas gyda mojo rojo a mojo verde

Y pryd delfrydol – Tenerife yn Los Abregos mewn pentre o’r un enw. Bwyty yn y bae, dim bwydlen – dim ond beth mae eu cwch bach nhw wedi dal y diwrnod hwnnw. Razor clams i ddechrau fel arfer, a chlamp o sgodyn yng nghanol y bwrdd i rannu rhwng pawb fel prif gwrs. Salad tomato a nionyn, a llwythi o papas arrugadas gyda mojo rojo a mojo verde [tatws gyda saws tsili a garlleg]. A photeli o win gwyn oer lleol i olchi bob dim lawr!

Sardîns a salad efo digon o lemon fresh sy’n dod ag atgofion o’r haf yn ôl i fi. Ges i’r union bryd yma yn Malaga unwaith, ar y ffrynt. Rhes o sardîns ar sgiwer wedi’u coginio ar dân. Oedd o’n anhygoel. Fe fyddai’n trio efelychu’r pryd yma’n aml dros y ha’ – tydi o’m cweit cystal ond digon agos i flasu fel haf braf, môr a dim cyfrifoldeb!

Yn y gaeaf, mae rysait black dahl Dishoom yn hyfryd. Crochan mawr sawrus, sbeisi efo ffasiwn blas mwy. Mae seconds – a thirds – yn anochel ar noson stormus!

Tydi’r plant a fy mhartner ddim yn bwyta cig, ac maen nhw wrth eu boddau efo spag-bol lentil fyddai’n gwneud. Felly er mwyn gneud yn siŵr bod y plant yn llenwi’u boliau pan fyddwn ni’n gael pobol ddiarth, dyna fydd y go-to. Ma’ pawb yn licio spag-bol dydi? Ac mae hwn yn llawn dyfnder. Wedyn i wneud o’n fwy o hwyl ac i bobol gael rhoi stamp eu hunain arno fo – fe fyddai’n rhoi croen lemwn, mint, basil, tsili ffres, parmigiano reggiano a balsamic ar y bwrdd i bobol helpu’i hunain.

Gwion Tegid gyda’i bartner, Kristina, a’u plant ar Ddydd Nadolig

Mae ffilm gyntaf DocShed, The Rev, ar gael ar Apple TV ac Amazon Prime rŵan


Rysáit Pâst Gwyrdd Thai

Cynhwysion:

10 sialot

lwmp sylweddol o sinsir a galangal

3 lemonwellt

4 dail leim keffir

5 tsili Bird’s eye

Mwy na ‘da chi’n feddwl o hadau coriander

llwyaid o siwgr palmwydd

twtch o shrimp paste neu fish sauce

2 ddyrnaid mawr o goriander ffres

Dull:

Blitsiwch y cyfan. Fe fyddan ni’n defnyddio fo i wneud cyri gan amlaf – ma’r ratio yna i un tun 400g o laeth cnau coco a diferyn o saws soi a dyrnaid o basil Thai. Ond mi rydan ni’n hoffi bwyd poeth! Mae o’n gwneud marinade neis i samwn ac mi rydw i wedi’i ddefnyddio i wneud fried rice cyflym a blasus o’r blaen.