Mae digwyddiad yn cael ei gynnal yn Abertawe heddiw (dydd Sadwrn, Chwefror 24) i nodi dwy flynedd ers i Rwsia ymosod ar Wcráin, a deng mlynedd ers dechrau’r rhyfel rhwng y ddwy wlad.
Yn ystod y digwyddiad ym Mhlas Dewi Sant yng nghanol y ddinas rhwng 3-5yp, bydd Wcreiniaid yn annerch y dorf, gan gynnwys offeiriad a chantorion, ond mae’r trefnwyr yn pwysleisio mai digwyddiad i gofio yw hwn ac nid adloniant.
Maen nhw’n dweud mai eu nod yw dangos i Wcreiniaid yng Nghymru nad ydyn nhw ar eu pennau eu hunain, anrhydeddu’r rhai fu farw a datgan eu cefnogaeth i’w mamwlad.
“Ar y diwrnod hwn, bydd Wcreiniaid ar draws y byd yn ymgasglu mewn sgwariau i dynnu sylw at y rhyfel yn erbyn ein mamwlad,” meddai’r trefnwyr.
“Rhyfel sydd wedi bod ar y gweill ers deng mlynedd hir.
“Rydym yn gwahodd Wcreiniaid a’u ffrindiau Cymreig i ddod ynghyd ar y diwrnod hwn yng nghanol Abertawe fel ei bod yn disgleirio unwaith eto mewn glas a melyn, i gynnau canhwyllau i gofio a chefnogi ein gwlad.
“Mae’r diwrnod hwn yn erchyll i bawb ohonom.
“Dewch i gefnogi eich gilydd a theimlo presenoldeb ffrindiau.”