Mae Vaughan Gething, oedd yn Weinidog Iechyd Cymru ar ddechrau’r pandemig, yn gwadu bod penderfyniadau swyddogol wedi cael eu gwneud dros gyfryngau cymdeithasol fel WhatsApp.

Dywedodd yr Aelod o’r Senedd wrth Ymchwiliad Covid-19 y Deyrnas Unedig heddiw (dydd Llun, Mawrth 11) ei fod yn destun “embaras” fod negeseuon Whatsapp o’r cyfnod wedi cael eu dileu.

Yn ôl Vaughan Gething, fe wnaethon nhw ddiflannu ar ôl i dîm technoleg gwybodaeth Senedd Cymru wneud gwaith ar y ffôn ym mis Mehefin 2022.

Roedd y cyfrwng yn cael ei ddefnyddio i gael sgyrsiau anffurfiol fyddai wedi digwydd “yn y coridor” yn y gwaith, meddai.

Clywodd yr ymchwiliad fod Vaughan Gething, sydd bellach yn Weinidog yr Economi, wedi cwrdd â’r timau cymorth technegol sawl gwaith i geisio adfer y negeseuon.

“Mae’n ddrwg gen i nad ydy’r negeseuon hyn ar gael i chi,” meddai wrth ymchwiliad y Farwnes Hallett.

“Mae’n destun embaras llwyr.”

Cyfarfodydd â Boris Johnson yn “anhrefnus ac aneglur”

Ar ddiwrnod cyntaf trydedd wythnos yr ymchwiliad yng Nghymru, dywedodd Vaughan Gething fod cyfarfodydd gyda Boris Johnson, oedd yn Brif Weinidog y Deyrnas Unedig ar y pryd, wedi bod yn “aneglur” a bod diffyg ffocws iddyn nhw.

Doedd neb o Gymru yn bresennol ym mhum cyfarfod cyntaf Sage, y corff oedd yn rhoi cyngor gwyddonol, a dywedodd Vaughan Gething y byddai wedi bod yn “ddefnyddiol” pe bai wedi cael bod yn yr ystafell.

Dywedodd hefyd fod trefn cyfarfodydd pwyllgor argyfwng Cobra yn “od iawn”, ac na fyddai ond yn derbyn y papurau ychydig funudau cyn y cyfarfod, ac nad oedd yn cael eu cadw nhw.

Roedd Boris Johnson “yn anhrefnus, aneglur a ffwndrus” wrth gadeirio cyfarfodydd Cobra, meddai Vaughan Gething.

Ychwanegodd fod y cyfarfodydd oedd yn cael eu cadeirio gan Dominic Raab a Matt Hancock “yn rhedeg yn well”.

‘Paratoi annigonol’

Wrth drafod cyfarpar diogelwch personol, dywedodd Vaughan Gething fod “paratoi annigonol” ar gyfer y pandemig anghywir, ac nad oedden nhw mor barod ag y gallen nhw fod.

Roedd Llywodraeth Cymru’n cynllunio i baratoi at bandemig ffliw, ond gan fod Covid-19 yn feirws gwahanol, aethon nhw drwy’r offer yn gynt na’r disgwyl ac roedd rhai eitemau’n anaddas.

Doedd Covid-19 ddim yn brif flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru ym mis Ionawr 2020, meddai Vaughan Gething wrth yr ymchwiliad.

Fe wnaeth Cabinet y Llywodraeth drafod Covid-19 yn ffurfiol am y tro cyntaf ar Chwefror 25, fis ar ôl i’r Prif Swyddog Meddygol ddweud wrth Mark Drakeford fod “perygl sylweddol” i Covid-19 gyrraedd Cymru.

Chafodd Llywodraeth Cymru ddim gwybod tan Fawrth 20, dridiau cyn i Boris Johnson gyhoeddi’r cyfnod clo cyntaf, nad Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn unig fyddai’n gwneud penderfyniadau’n ystod y pandemig.

Pe baen nhw’n gwybod eu bod nhw’n gyfrifol am wneud eu penderfyniadau eu hunain, byddai gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi dechrau gweithio ar bolisïau ynghynt, yn ôl Vaughan Gething.

“Drwy gydol mis Mawrth, byddai diwrnod neu ddau ychwanegol, hyd yn oed, wedi gwneud gwahaniaeth i’n gwaith paratoi ni,” meddai.

“Unwaith y cafodd y penderfyniad ei wneud, roedd yn rhaid i ni fwrw ati.

“Roedden ni’n gwybod nad oedd amser i oedi.”

Cau ysgolion a chanslo digwyddiadau

O edrych yn ôl, meddai Vaughan Gething, dylai fod wedi dweud wrth benaethiaid rygbi Cymru i ohirio’r gêm rhwng Cymru a’r Alban yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd ym mis Mawrth 2020, wrth i’r achosion cyntaf o Covid-19 daro Ewrop.

Roedd dros 20,000 o gefnogwyr yr Alban eisoes wedi cyrraedd Caerdydd pan gafodd y gêm ei gohirio ar yr unfed awr ar ddeg, er bod cyngor meddygol yn dweud y gallai’r gêm fynd yn ei blaen.

Wrth gyfeirio at y penderfyniad i gau ysgolion yn gynnar cyn y Pasg, dywedodd ei fod yn difaru nad oedd ysgolion wedi aros ar agor am gyfnod hirach, ond mai eu cau nhw oedd y peth iawn i’w wneud dan yr amgylchiadau.

Roedd nifer o ysgolion wedi dechrau penderfynu cau eu hunain erbyn hynny, gan fod staff yn hunanynysu.

Y cyfnod clo cyntaf “yn gwbl angenrheidiol”

Erbyn Mawrth 20, roedd gweinidogion yn ystyried cyflwyno cyfnod clo yng Nghymru – waeth beth fyddai’n digwydd yng ngweddill gwledydd Prydain, meddai Vaughan Gething.

Dywedodd wrth yr ymchwiliad hefyd fod cyflwyno’r cyfnod clo cyntaf yn “gwbl angenrheidiol”.

“Dw i ddim yn meddwl bod ffordd o osgoi’r cyfnod clo cyntaf, dw i wir ddim,” meddai.

“Dw i ddim yn meddwl y bydden ni wedi gallu cyfiawnhau peidio gweithredu ar yr adeg honno.”

Er hynny, dywedodd y gallai cyfnod clo cynharach fod wedi achub mwy o fywydau.

Pe bai Cobra wedi cynnig cyfnod clo ar gyfer Mawrth 20, byddai Llywodraeth Cymru wedi cytuno yn ôl pob tebyg, meddai.

Erbyn mis Medi 2020, dechreuodd Llywodraeth Cymru gyflwyno cyfnodau clo lleol yn sgil cynnydd lleol mewn achosion Covid.

Roedd hi’n “iawn eu trio nhw”, meddai’r cyn-Weinidog Iechyd, gan ddweud y gallai cyflwyno cyfnod clo cenedlaethol arall yn rhy gynnar fod wedi effeithio ar gefnogaeth y cyhoedd a’u parodrwydd i gydymffurfio.

‘Heb baratoi’n dda’

Mae’n amlwg o’r dystiolaeth nad oedd Llywodraeth Cymru wedi “paratoi’n dda” ar gyfer Covid-19, yn ôl Mabon ap Gwynfor, llefarydd iechyd Plaid Cymru.

“Wnaeth Llywodraeth Lafur Cymru ddim trin Covid fel argyfwng nes dechrau mis Mawrth 2020,” meddai.

“Roedd eu stoc offer diogelwch personol yn anghywir, a methu cael ei ddefnyddio er eu bod nhw’n gwybod fod pandemig coronafeirws yn debygol.

“Roedd Plaid Cymru’n dweud yn ôl ym mis Mawrth 2020 y dylai Llywodraeth Cymru ohirio gemau’r Chwe Gwlad, ond fe wnaeth Vaughan Gething fel Gweinidog Iechyd wrthod cymryd cyfrifoldeb a chynghori Undeb Rygbi Cymru i benderfynu eu hunain.

“Bydd mwy o gwestiynau di-ateb ar ôl heddiw, heb amheuaeth.

“Rydyn ni’n gwybod, heb amheuaeth, bod ymdriniaeth Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig yn ofnadwy.

“Ond yng Nghymru, mae hi’n dod yn gynyddol amlwg bod y diffyg paratoi blêr gan y Llywodraeth Lafur wedi cael effaith ddinistriol, hirhoedlog ar Gymru.

“Mae’r achos dros ymchwiliad Covid penodol i Gymru’n amlycach nag erioed.”

Eluned Morgan, Gweinidog Iechyd Cymru ers mis Mai 2021, fydd yn cael ei holi bore fory (dydd Mawrth, Mawrth 12), a Jeremy Miles, y Gweinidog Addysg, yn y prynhawn.

Ddydd Mercher (Mawrth 13), bydd Mark Drakeford yn wynebu’r ymchwiliad.

“Rhagrithiol” bod Vaughan Gething wedi dileu negeseuon yn ystod y pandemig

Tystiolaeth wedi’i rhoi i ymchwiliad Covid-19 fod Vaughan Gething wedi defnyddio WhatsApp, sy’n gallu dileu negeseuon yn ddiofyn, yn ystod y pandemig