Mae cynigion sy’n gobeithio cynyddu cyfran y menywod sy’n Aelodau o’r Senedd yn gam at greu Senedd “fwy modern a cynrychiadol”, yn ôl gwleidyddion ac ymgyrchwyr.
Cafodd cynigion cyfreithiol i gynyddu cyfran y menywod sy’n sefyll yn etholiadau’r Senedd eu cyhoeddi heddiw (dydd Llun, Mawrth 11).
Nod Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) yw gwneud y Senedd yn fwy effeithiol, drwy sicrhau ei bod hi’n cynrychioli pobol Cymru yn well.
Os daw’r Bil yn gyfraith, bydd yn rhaid i bleidiau sy’n cyflwyno mwy nag un ymgeisydd mewn etholaeth ar gyfer etholiadau’r Senedd sicrhau mai menywod yw o leiaf hanner yr ymgeiswyr ar y rhestr.
Er mwyn helpu i sicrhau bod y cynnydd ar y rhestrau’n arwain at gynnydd yn y menywod yn y Senedd, byddai angen i bleidiau hefyd osod menywod ar frig eu rhestrau ymgeiswyr yn o leiaf hanner yr etholaethau maen nhw’n cystadlu amdanyn nhw.
Ar y rhestrau lle mae mwy nag un ymgeisydd, bydd gofyn i bob person nad yw’n fenyw gael eu dilyn gan fenyw.
Mae’r newidiadau yn rhan o gynlluniau ehangach i ddiwygio a chynyddu maint y Senedd, o 60 aelod i 96.
‘Creu cydraddoldeb’
Yn 2003, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i sicrhau cynrychiolaeth gyfartal o ddynion a menywod yn ei senedd, ond mae’r ganran honno wedi gostwng.
Ar hyn o bryd, dim ond 43% o Aelodau’r Senedd sy’n fenywod, er bod 51% o boblogaeth Cymru’n ferched.
Mae Cymdeithas Ddiwygio Etholiadol Cymru ymysg y rhai sydd wedi croesawu’r cynigion.
Dywed Jess Blair, eu Cyfarwyddwr, ei bod hi’n gweld y bil yn rhan o’r broses o greu Senedd “fwy modern a cynrychiadol”.
“Er bod y Senedd wedi arwain y byd o ran cydraddoldeb rhywedd, mae hi wedi llithro’n ôl ac mae’r cynigion hyn yn dechrau’r sgwrs am greu cydraddoldeb a gwneud yn siŵr bod mesurau i sicrhau bod menywod yn sefyll a, gobeithio, yn cynyddu cynrychiolaeth yn y Senedd hefyd,” meddai wrth golwg360.
“Rydyn ni’n gwybod fod seneddau mwy amrywiol yn cynrychioli ystod ehangach o safbwyntiau, ac maen nhw’n gallu dweud eu dweud wrth graffu ar ddeddfwriaethau neu gyllidebau mawr.
“Os oes gennych chi ond yr un grŵp o bobol yn gwneud deddfwriaethau neu gyllidebau, dydyn nhw, mae’n debyg, ddim am ystyried yr holl effeithiau mae hynny am gael ar gymdeithas.”
Mae astudiaeth gan y Sefydliad Ewropeaidd ar gyfer Cydraddoldeb Rhywiol yn 2021 yn dangos bod unarddeg gwladwriaeth sy’n rhan o’r Undeb Ewropeaidd ac sydd â chwotâu rhywedd wedi cynyddu cyfran y menywod yn eu seneddau, a hynny bron i deirgwaith yn gynt na gwledydd heb gwotâu.
Newidiadau ehangach
Y bwriad ydy cyflwyno’r holl newidiadau i’r Senedd erbyn yr etholiad nesaf yn 2026, ac ymysg cynlluniau Mesur Diwygio’r Senedd mae cynnig i gyflwyno system bleidleisio rhestrau caeëdig – cynllun sydd wedi denu rhywfaint o wrthwynebiad.
O dan y system bleidleisio bresennol, mae gan etholwyr y gallu i ddewis ymgeiswyr yn ôl blaenoriaeth.
Ond wrth gyflwyno system rhestr gaeëdig, byddai’n rhaid i etholwyr bleidleisio dros blaid yn hytrach nag ymgeisydd unigol.
Dan y cynlluniau, byddai etholaethau yn etholiadau’r Senedd yn 2026 yr un fath â’r 32 etholaeth fydd gan Gymru yn Senedd y Deyrnas Unedig.
Y bwriad yw cyplysu’r etholaethau hyn er mwyn creu 16 o etholaethau i Senedd Cymru, gyda phob etholaeth wedyn yn ethol chwe Aelod.
Byddai pob plaid yn cyflwyno rhestr o ymgeiswyr, gan ddilyn y rheolau sydd wedi’u cyhoeddi heddiw, a bydden nhw’n cael eu hethol i’r Senedd yn y drefn ar y rhestr yn ddibynnol ar nifer y pleidleisiau i’r blaid honno.
‘Cynrychioli Cymru’
Nod y Bil ydy sicrhau Senedd sydd â chydbwysedd o ran rhywedd, yn ôl Jane Hutt, Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a Phrif Chwip Llywodraeth Cymru.
“Ugain mlynedd yn ôl, fe wnaeth Cymru greu hanes pan oedd 50% o’r Aelodau gafodd eu hethol i’r Cynulliad Cenedlaethol ar y pryd yn fenywod,” meddai.
“Ond ers hynny, mae’r nifer wedi gostwng.
“Mae cael Senedd sy’n adlewyrchu cyfansoddiad poblogaeth Cymru yn well yn dda i wleidyddiaeth, yn dda i gynrychiolaeth ac yn dda ar gyfer llunio polisïau.”
Mae’r diwygiadau i’r Senedd yn rhan o’r Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru, a dywed Rhun ap Iorwerth, arweinydd y Blaid, fod angen sicrhau bod mwy o fenywod yn sefyll mewn etholiadau ac yn cael eu hethol i greu Senedd fwy effeithiol “sydd wir yn cynrychioli Cymru”.
“Mae’r diwygiadau sy’n cael eu cyflwyno yn gam ymlaen i gryfhau democratiaeth yng Nghymru fel bod y Senedd yn adlewyrchu ein cenedl fodern,” meddai.
‘Ethol ar deilyngdod’
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn gwrthwynebu’r cynlluniau i ehangu a diwygio’r Senedd ers y cychwyn.
“Rydyn ni’n credu y dylai ymgeiswyr gael eu dewis a’u hethol i’n Senedd ar sail teilyngdod, nid oherwydd y rhywedd maen nhw’n uniaethu â hi, eu rhyw fiolegol, rhywioldeb, hil, crefydd neu anabledd,” meddai Darren Millar, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar y Cyfansoddiad.
“Er ein bod ni eisiau gweld mwy o amrywiaeth yn ein gwleidyddiaeth, fyddan ni wastad yn gwrthwynebu unrhyw system sy’n trio rhoi un agwedd o amrywiaeth yn erbyn un arall.”
Wrth ymateb i hynny, dywed Jess Blair nad diffyg teilyngdod yw’r rheswm pam nad oes cynifer o fenywod mewn gwleidyddiaeth.
“I ddechrau, mae cwotâu rhywedd yn bodoli yn y wlad hon yn barod. Mae gennym ni arglwyddi etifeddol yn Nhŷ’r Arglwyddi sydd i gyd yn ddynion yn sgil natur y broses,” meddai wrth golwg360.
“Mae yna fesurau sydd yn dyfnhau’r anghydraddoldeb ar hyn o bryd, ac rydyn ni i gyd yn gwybod nad oes yna gyfle teg a chydradd i fenywod lwyddo.
“Nid [diffyg] teilyngdod sydd yn golygu nad yw menywod yn cael eu cynrychioli mewn gwleidyddiaeth, ond y rhwystrau hanesyddol a systemig sydd yn wynebu nifer o fenywod ledled y wlad.”