Fe fu o leiaf 145 o achosion o ddifrod i arwyddion terfyn cyflymder yn ardaloedd cynghorau Gwent ers mis Medi, pan ddaeth y terfyn cyflymder 20m.y.a. i rym.
Yn ystod y pum mlynedd cyn hynny, 101 o achosion o’r fath gafodd eu cofnodi gan bum cyngor yr ardal.
Mae ffigurau’n dangos mai yn Nhorfaen a Chaerffili roedd y nifer fwyaf o achosion o fandaliaeth neu ddifrod i arwyddion terfyn cyflymder.
Yn Nhorfaen, dywed y Cyngor bod eu swyddogion wedi derbyn adroddiadau ac wedi archwilio 55 o arwyddion ers Medi 1 y llynedd.
Yng Nghaerffili, dywed y Cyngor fod 48 o adroddiadau o ddifrod rhwng Medi 1 a dechrau mis Chwefror, a phum achos pellach o graffiti ar arwyddion.
Deiseb a gwrthwynebiad
Daeth y terfyn cyflymder diofyn newydd – oedd wedi gostwng y terfyn uchaf y gall cerbydau deithio yn y rhan fwyaf o ardaloedd preswyl o 30m.y.a. i 20m.y.a. – i rym ar Fedi 17 y llynedd, ac fe arweiniodd at gryn wrthwynebiad gan y cyhoedd a mwy na 469,000 yn llofnodi deiseb i ddileu’r terfyn isaf “trychinebus”.
Fe wnaeth Llywodraeth Cymru roi £34m i 22 o gynghorau Cymru ar gyfer arwyddion newydd sy’n ofynnol er mwyn rhoi gwybod i yrwyr am y terfyn cyflymder, ac ers mis Medi fe fu nifer o adroddiadau o arwyddion 20m.y.a. yn cael eu fandaleiddio, yn aml â phaent du yn cuddio’r rhif 20.
Ffigurau’r cynghorau
Mae’r Gwasanaeth Gohebu ar Ddemocratiaeth Leol wedi cael gafael ar ffigurau’r cynghorau o ran difrod i arwyddion.
Yn Sir Fynwy, dywed y Cyngor eu bod nhw wedi cofnodi “o leiaf 22” o achosion o fandaliaeth neu ddifrod i arwyddion terfyn cyflymder ers mis Medi, a’u bod nhw wedi cael adroddiadau “niferus” – o leiaf bedwar – mewn tri lleoliad yn unig.
Cafodd y terfyn 20m.y.a. ei dreialu yn y Fenni ac ardaloedd ar lan Afon Hafren, gan gynnwys Cil-y-coed, o 2022, ac fe fu beirniadaeth a gwrthwynebiad i’r terfyn isaf ar y pryd.
Ond adroddodd Cyngor Sir Fynwy am ddau achos yn unig o ddifrod neu fandaliaeth i arwyddion terfyn cyflymder dros y pum mlynedd blaenorol.
Yn Nhorfaen, cofnododd y Cyngor gyfanswm o ddeg achos o fandaliaeth neu ddifrod i arwyddion terfyn cyflymder o 2019 i flwyddyn ariannol 2022-23, gydag uchafswm o bedwar yn 2021-22.
Ym Mlaenau Gwent, dywedodd y Cyngor eu bod nhw wedi cofnodi deg achos o “ddadfeilio” arwyddion ers mis Medi, ond dim ond un achos o fandaliaeth neu ddifrod dros y pum mlynedd blaenorol.
Roedden nhw wedi gwario £66 yn trwsio arwyddion oedd wedi’u difrodi ers mis Medi, tra bod Caerffili yn dweud eu bod nhw wedi gwario £4,525.43 i drwsio arwyddion yn yr un cyfnod.
Dywedon nhw eu bod nhw wedi neilltuo £10,000 o’u grant gan Lywodraeth Cymru ar gyfer arwyddion newydd, mewn perthynas â’r terfyn 20m.y.a., yn ystod y flwyddyn ariannol 2023-24.
Doedd Cyngor Dinas Casnewydd ddim wedi gallu darparu ffigurau ynghylch nifer yr adroddiadau o fandaliaeth, ond dywedon nhw eu bod nhw wedi gwario oddeutu £1,000 i drwsio arwyddion oedd wedi’u difrodi ers i’r terfyn cyflymder cenedlaethol newid i 20m.y.a.
Dywedodd pob cyngor fod arian Llywodraeth Cymru ar gyfer arwyddion newydd yn talu am gostau disgwyliedig y gwaith trwsio.
Mae ffigurau Heddlu Gwent yn dangos bod y llu wedi cofnodi dau achos o fandaliaeth i arwydion terfyn cyflymder ers mis Medi, gan arwain at arestio a chyhuddo un person.
Cofnododd y llu wyth achos o fandaleiddio arwyddion terfyn cyflymder yn y pum mlynedd blaenorol, yn ôl y ffigurau.
Fis Chwefror, adroddodd y South Wales Argus fod Mark Lanchbury, 51 oed o Bontllanfraith ger y Coed Duon, wedi pledio’n euog i achosi difrod troseddol i arwydd 20m.y.a. o eiddo Cyngor Caerffili, a chafodd e orchymyn i dalu dirwy a chostau gwerth £1,285.
Yr wythnos hon, dywedodd Lee Waters, y dirprwy weinidog yn Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am oruchwylio’r polisi 20m.y.a., fod y ffigurau diweddaraf yn dangos bod 97% o fodurwr yn cydymffurfio â’r terfyn cyflymder is sydd â’r bwriad o leihau nifer y damweiniau traffig, anafiadau a marwolaethau.