Yn dilyn ymchwiliad i ddiwylliant Gwasanaeth Tân ac Achub y De yn ddiweddar, mae Gweinidog Partneriaeth Gymdeithasol Cymru’n dweud bod diwylliant tebyg wedi’i ganfod yng Ngwasanaeth Tân ac Achub y gogledd, ac yng Ngwasanaeth Tân ac Achub y Canolbarth a’r Gorllewin.

Mewn datganiad, cyfeiria Hannah Blythyn at y “cam digynsail” gymerodd hi fis diwethaf wrth benodi pedwar Comisiynydd i ofalu am y gwasanaeth yn y de, yn dilyn “adroddiad damniol” oedd wedi datgelu “lefelau parhaus o gamymddygiad gan staff, diwylliant camweithredol yn y gweithle, a methiannau difrifol a systemig o ran rheolaeth ar bob lefel”.

Yn sgil hynny, meddai, aeth hi ati “ar fyrder” i ymchwilio i faterion tebyg posib yn y ddau wasanaeth tân ac achub arall yng Nghymru.

Yn rhan o hynny, bu’n cyfarfod â phrif swyddogion y ddau wasanaeth arall a chadeiryddion yr awdurdodau tân perthnasol i drafod Adroddiad Morris a’i argymhellion.

Dywed ei bod hi wedi ceisio sicrwydd am ddiwylliant a gweithredoedd y gwasnaethau, gan nodi ei disgwyliadau am ddiwylliant yn y gweithle.

Camau sydd wedi’u cymryd

Dywed Hannah Blythyn fod y ddau wasanaeth wedi cychwyn ar raglenni cynhwysfawr i adolygu a gwella’u diwylliannau sefydliadol.

Maen nhw eisoes wedi cynnal eu harolygon staff eu hunain, meddai.

Maen nhw hefyd yn ceisio ymateb i adroddiad newyddion ITV am Wasanaeth Tân ac Achub y De, canfyddiadau Adroddiad Sbotolau Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi yn Lloegr, ac Adroddiad Morris.

Dywed fod “rhai enghreifftiau o arfer da yn y ddau wasanaeth”, gan gynnwys bod gan bob gorsaf yn y gogledd swyddog cymorth pwrpasol i staff droi atyn nhw’n gyfrinachol, ac yn y canolbarth a’r gorllewin gall pob aelod o staff godi unrhyw fater gyda rheolwyr ar unrhyw lefel.

…Ond pryderon o hyd

Er gwaetha’r camau cadarnhaol sydd wedi’u cymryd, dywed Hannah Blythyn fod pryderon o hyd yn dilyn gohebiaeth gan weithwyr a chyn-weithwyr y ddau wasanaeth.

Mae’r rhain yn cynnwys honiadau o fwlio, aflonyddu rhywiol, a dangos ffafriaeth wrth gynnig dyrchafiadau swyddi.

Dywed Hannah Blythyn fod “angen rhoi tawelwch meddwl i’r cyhoedd am y diwylliant a’r arferion rheoli cysylltiedig yn ein gwasanaethau tân ac achub”, a bod “angen i staff gael sicrwydd bod ganddyn nhw fodd diogel ac effeithiol i rannu eu profiadau, boed hynny’n brofiadau da neu ddrwg, yn eu sefydliad”.

Dywed fod y ddau wasanaeth dan sylw wedi cytuno i:

  • gynnal adolygiad annibynnol, asesiad o sefyllfa bresennol y sefydliadau mewn perthynas â chanfyddiadau Adroddiad Morris, ac astudiaethau perthnasol eraill ynghylch diwylliant a gweithle.
  • cynnal adolygiad o foddhad a chymhelliant staff
  • ymgysylltu â staff
  • adolygu trefniadau dyrchafu, trefniadau cwyno, ac amrywiaeth y gweithlu
  • ystyried canlyniadau gwaith gafodd ei gomisiynu eisoes gan y ddau sefydliad yn y meysydd hyn, megis arolygon ymgysylltu â staff, grwpiau ffocws a’r camau nesaf gafodd eu cynnig mewn ymateb
  • nodi a blaenoriaethu cyfleoedd i wella, gydag amserlenni dangosol ar gyfer gweithredu
  • ymgysylltu’n llawn ac yn agored â staff presennol a chyn-aelodau o staff, a phartïon eraill sydd â diddordeb fel rhan o’r uchod
  • ymgysylltu a chynnwys yr undebau llafur a sefydliadau staff perthnasol fel y bo’n briodol yn y broses hon
  • cynhyrchu adroddiad fydd yn cael ei gyhoeddi’n llawn, ac eithrio unrhyw fanylion lle y gellid adnabod unigolion.

“Byddwn yn disgwyl i wasanaethau tân ac achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a Gogledd Cymru benodi cyn gynted â phosibl, a chyhoeddi adroddiad erbyn hydref 2024 fan bellaf,” meddai Hannah Blythyn.

“Byddaf, wrth gwrs, yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau.”

Rhan o beiriant tan

Penodi comisiynwyr i oruchwylio Awdurdod Tân ac Achub y De

Daw’r cyhoeddiad yn dilyn adroddiad damniol