Bydd comisiynwyr yn cael eu penodi i oruchwylio gwaith Awdurdod Tân ac Achub y De yn dilyn adroddiad damniol.

Fe wnaeth yr adroddiad amlygu diwylliant o ragfarn ar sail rhyw a chasineb at fenywod, yn ogystal â methiannau ehangach o ran rheolaeth ac arweinyddiaeth yn y gwasanaeth tân ac achub.

Dydy Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol yn Llywodraeth Cymru, ddim yn hyderus y gall y gwasanaeth oruchwylio’u hadferiad eu hunain yn fewnol, meddai.

Dywed fod rheolaeth ar bob lefel yn gysylltiedig â’r methiannau gafodd eu hamlygu yn yr adroddiad dan arweiniad Cwnsler y Brenin.

Ymddeoliad ddim yn ddigon i ysgogi newid

Yn ôl Hannah Blythyn, dydy ymddeoliad y Prif Swyddog Tân yn sgil yr adroddiad ddim yn ddigon i ysgogi’r newid sydd ei angen ar raddfa eang o ran prosesau, gwerthoedd a diwylliant.

Mae hi wedi dileu holl swyddogaethau’r Awdurdod Tân, ac wedi eu trosglwyddo nhw i bedwar comisiynydd, sef y Farwnes Wilcox, cyn-arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd; Kirsty Williams, cyn-Aelod Llafur o’r Senedd dros Frycheiniog a Sir Faesyfed; Vij Randeniya, cyn-Brif Swyddog Tân Gorllewin Canolbarth Lloegr; a Carl Jason Foulkes, cyn-Brif Gwnstabl Heddlu’r Gogledd.

Bydd gan y comisiynwyr bwerau i ailstrwythuro a diwygio’r gwaith o reoli’r Gwasanaeth ac i feithrin diwylliant cadarnhaol ac anwahaniaethol.

Byddan nhw’n aros yn eu rolau hyd nes y bydd y gwaith wedi’i orffen, ac yn adrodd yn rheolaidd i’r Dirprwy Weinidog ar y cynnydd.

Yr adroddiad

Roedd yr adroddiad annibynnol gan Fenella Morris CB ar Wasanaeth Tân ac Achub y De yn feirniadol iawn o’r ymddygiadau a’r agweddau gwahaniaethol ar bob lefel yn y gwasanaeth, yn ogystal â methiannau rheolwyr i fynd i’r afael â nhw.

Dywed Hannah Blythyn nad yw cynigion Awdurdod Tân ac Achub y De ei hun i weithredu argymhellion yr adroddiad yn rhoi unrhyw sicrwydd y bydd modd mynd i’r afael â’r problemau sylfaenol.

Roedd Awdurdod Tân ac Achub y De wedi cynnig sefydlu Pwyllgor Gweithredu i Adolygu Diwylliant i oruchwylio’r gwaith o weithredu argymhellion yr adroddiad, ond dywedodd y Dirprwy Weinidog nad oes ganddi hyder y byddai hyn yn mynd i’r afael â’r gwendidau sylfaenol o ran llywodraethu, a bod angen ymyrraeth gryfach.

“Mae’n anodd gweld sut y byddai Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn gallu gwneud y newidiadau sydd eu hangen,” meddai.

“Yn enwedig o ystyried bod y rhai sydd yn y swydd ar hyn o bryd yn rhan o’r broblem, ac felly allan nhw ddim hefyd fod yn rhan o’r ateb.

“Oni bai bod camau’n cael eu cymryd nawr, mae risg y gallai’r methiannau hyn hefyd effeithio ar y gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu, a rhoi bywydau mewn perygl.

“Does gen i ddim ffydd yn y tebygolrwydd y bydd Awdurdod Tân ac Achub De Cymru yn adfer safon dderbyniol o reoli, nac ychwaith y bydd yn mynd i’r afael â’r risgiau ehangach i’r gwasanaeth y mae’n ei ddarparu i ddiogelu diffoddwyr tân a’r cyhoedd.

“Rwy’n credu bod hynny’n creu achos cymhellol dros ymyrraeth Llywodraeth Cymru, er mwyn sicrhau adferiad cyflym a chynaliadwy.”

Ychwanega fod tystiolaeth o ran sut mae’r methiannau rheoli wedi effeithio’n uniongyrchol ac yn ddifrifol ar wasanaethau craidd.

Mae hyn yn cynnwys bod y gwasanaeth tân wedi gwrthod argymhellion gan y Prif Gynghorydd Tân ac Achub i wella safonau gwasanaeth a diogelwch diffoddwyr tân.

Ac mae Gwasanaeth Tân ac Achub y De wedi methu â dilyn cyngor blaenorol gan Fframwaith Cenedlaethol Gwasanaethau Tân ac Achub 2016 i leihau eu hymatebion i alwadau tân diangen.

Mae eu hymatebion i alwadau tân diangen wedi codi’n gyson yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac mae bellach yn agos at y lefel uchaf ar gofnod.

‘Rhaid bod gan y comisiynwyr wybodaeth a phrofiad digonol’

Yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig, mae’n rhaid bod gan y comisiynwyr wybodaeth a phrofiad digonol i ymgymryd â’r gwaith.

“Mae’n glir i bawb fod rhaid gweithredu er mwyn mynd i’r afael â’r diwylliant oedd wedi gallu datblygu yng Ngwasanaeth Tân De Cymru,” meddai Joel James, llefarydd Partneriaeth Gymdeithasol y blaid.

“Roedd methiant llwyr o ran y gweithdrefnau disgyblu oedd yn eu lle, a bydd pobol yn ei chael hi’n anodd ymddiried yn y Gwasanaeth Tân os nad yw’r materion hyn a rhai eraill yn cael eu datrys.”