Mae Bwrdd Erlyniadau Troseddol Goruchaf Lys Sbaen wedi gwrthod adroddiad gan farnwr sy’n argymell peidio erlyn cyn-arweinydd Catalwnia.

Yn ôl adroddiad gan Álvaro Redondo, does dim digon o dystiolaeth i gyhuddo Carles Puigdemont o frawychiaeth.

Ond ar ôl cynnal trafodaethau oedd wedi para rai oriau, mae’r Bwrdd wedi penderfynu bod digon o dystiolaeth o frawychiaeth i ddwyn achos yn ei erbyn.

Yr wythnos ddiwethaf, fe wnaeth erlynydd feirniadu “diffyg dadleuon” y barnwr Manuel García-Castellón wrth iddo fe ymchwilio i achos Puigdemont, y blaid wleidyddol Esquerra Republicana a’u hysgrifennydd cyffredinol Marta Rovira, ynghyd â deg o bobol eraill a’u cysylltiadau â’r grŵp protest Tsunami Democràtic.

Fe wnaeth y grŵp drefnu protestiadau yn 2019, yn dilyn carcharu arweinwyr y mudiad annibyniaeth am eu rhan yn refferendwm 2017 oedd yn cael ei ystyried yn un anghyfansoddiadol gan Sbaen.

Aeth y criw ati i greu blocâd ar briffordd a cheisio cau maes awyr Barcelona.

Mae’r erlynydd wedi beirniadu’r barnwr sawl gwaith am nifer o benderfyniadau “hollol anghyfiawn” ac wedi ei gyhuddo o achosi “oedi” er mwyn ymestyn y broses apêl.

Y Bil Amnest

Mae Tsunami Democràtic wedi cael cryn sylw yn ddiweddar yn sgil cymeradwyo’r Bil Amnest, sy’n anelu i roi pardwn i arweinwyr y refferendwm annibyniaeth.

Mae plaid Junts per Catalunya yn awyddus i addasu’r ddeddfwriaeth ddrafft er mwyn sicrhau gwarchodaeth gyfreithiol i’r rhai sydd wedi’u cyhuddo o fod â rhan ym mhrotestiadau’r grŵp hwn a grwpiau tebyg.

Er mwyn gwneud hynny, medden nhw, mae’n rhaid dileu unrhyw gyfeiriad at frawychiaeth fel eithriad i weithredu’r gyfraith.

Ond mae’r Sosialwyr yn poeni y gallai’r gyfraith fynd yn destun ffrae yn Llys Cyfansoddiadol Sbaen o wneud hynny, ac y gallai gael ei hystyried yn anghyfansoddiadol.

Ar ôl cael ei wrthod gan Gyngres Sbaen, bydd y Bil yn destun trafodaeth bellach rhwng Junts per Catalunya a’r Sosialwyr sydd ar y Pwyllgor Cyfiawnder, a gobaith y Sosialwyr yw y bydd yn cael ei drafod eto ymhen rhai wythnosau.