Mae Jane Dodds yn galw am fwy o gefnogaeth i feddygon teulu yng nghefn gwlad.

Daw’r alwad wrth i arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru hefyd alw am daliad i feddygon er mwyn sicrhau bod modd i ofal sylfaenol ateb anghenion iechyd lleol.

Dywed fod cymunedau gwledig wedi’u bwrw’n galed ers rhai blynyddoedd o ganlyniad i doriadau i wasanaethau hanfodol, ac effaith hynny ar fynediad at ofal iechyd lleol wrth i bobol orfod teithio’n bell am driniaeth a gofal.

‘Ynysu’r boblogaeth wledig’

“Mewn sgyrsiau diweddar efo meddygon teulu ledled Powys, thema gyffredin sydd wedi codi ydy’r ffaith nad yw’r sefyllfa na modelau ariannu presennol yn cyfrif am y gwasanaethau ychwanegol mae’n rhaid i feddygfeydd gwledig eu cynnig o ganlyniad i ddiffyg opsiynau amgen gerllaw,” meddai Jane Dodds.

“Rhaid gwneud mwy i deilwra cefnogaeth ariannol a strwythurol fel y gall meddygon teulu gwledig barhau i weithredu’n gynaliadwy.

“Efo bron i gant o feddygfeydd yng Nghymru’n cau dros y degawd diwethaf, fedrwn ni ddim wynebu perygl pellach o ynysu ein poblogaeth wledig.

“Mae angen adolygiad brys o’r trefniadau ariannu ar gyfer meddygon teulu gwledig, er mwyn sicrhau eu bod nhw’n medru ateb anghenion pobol leol.”