Mae pob pennaeth yng Nghonwy wedi llofnodi llythyr yn condemnio’r Cyngor am gynnig cwtogi cyllidebau ysgolion gan 6-10%.

Cafodd toriadau o 5% eu gwneud i gyllidebau addysg y flwyddyn ddiwethaf, ac mae’r llythyr yn mynd allan i rieni plant sy’n mynd i ysgolion cynradd ac uwchradd yn y sir, ynghyd ag ysgolion arbennig.

Bydd y Cyngor yn penderfynu ar y toriadau ar Chwefror 29, ond mae cynghorwyr wedi awgrymu y byddan nhw’n lleihau’r cyllid gan 6% ar y lleiaf, ond mae 10% wedi cael ei awgrymu hefyd.

Caiff y toriadau eu cynnig er gwaethaf effaith Covid-19 ar addysg, ac mae prifathrawon wedi rhybuddio mai’r plant mwyaf bregus, sydd angen y mwyaf o help, fydd yn dioddef waethaf.

Ond mae Conwy yn wynebu bwlch ariannol o £25m, ac mae’n debyg y bydd yn rhaid iddyn nhw wneud toriadau ym mhob maes a chodi’r dreth gyngor gymaint ag 11%.

Bu cynnydd o 9.9% y llynedd, ac maen nhw wedi modelu ar gyfer cynnydd o 8%, 9%, 10% ac 11%.

Mae’r Cyngor yn beio Llywodraeth Cymru ar ôl derbyn un o’r setliadau ariannol blynyddol ar gyfer llywodraethau lleol isaf yn y wlad.

‘Plant yn dioddef’

Yn y llythyr at rieni a gofalwyr, mae’r prifathrawon yn beirniadu cynigion y Cyngor yn hallt.

“Rydyn ni fel penaethiaid a Chyrff Llywodraethu Conwy yn poeni’n fawr eleni, gan fod gofyn i ni wneud arbedion rhwng 6% a 10% gan Awdurdod Lleol Conwy ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf,” medd y llythyr.

“Mae hwn yn doriad sylweddol, ac rydyn ni’n dal i aros am y penderfyniad terfynol.

“Teg yw dweud y bydd y toriad arfaethedig i ysgolion yn ei gwneud hi’n anodd iawn i benaethiaid a chyrff llywodraethu osod cyllidebau.”

Mae’r llythyr yn esbonio bod prifathrawon wedi ysgrifennu at Weinidog Addysg Llywodraeth Cymru, ynghyd â’r cyfarwyddwr addysg, i fynegi “pryderon difrifol” ynglŷn ag effaith y toriadau ar blant a’u teuluoedd.

“Fel ymateb ar y cyd gan holl benaethiaid a Llywodraethwyr Conwy, sy’n cynnwys ysgolion cynradd, uwchradd ac arbennig, rydyn ni eisiau i rieni a gofalwyr fod yn gwbl ymwybodol o’r heriau difrifol rydyn ni’n parhau i’w hwynebu.

“Mae’r sefyllfa ariannol mewn ysgolion nawr yn argyfyngus, ac nid oes amheuaeth y bydd toriadau pellach i gyllidebau ysgolion yn cael effaith sylweddol ar yr hyn fedrwn ni ei ddarparu i ddisgyblion.

“Bydd unrhyw doriadau i gyllid ysgolion, fel sy’n cael ei gynnig, nawr yn effeithio ar lefel y gefnogaeth y gallwn ni ei gynnig i’r bobol ifanc fwyaf bregus a’u teuluoedd.

“Mae ein disgyblion wedi wynebu a goroesi nifer o heriau dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf; fodd bynnag, rydyn ni dal i ymdopi â chanlyniadau’r pandemig a’r effaith y cafodd, ac y mae’n parhau i gael, ar addysg ein disgyblion.”

Mae’r llythyr hefyd yn dweud y bydd swyddi’n cael eu colli ac mai’r plant fydd yn dioddef waethaf yn sgil y toriadau arfaethedig.

Mae’r llythyr yn gorffen drwy ddweud eu bod nhw’n rhagweld y bydd y rhan fwyaf o ysgolion y sir yn cael trafferth creu cyllideb nad yw’n mynd â nhw i ddyled.

“Os nad ydyn nhw’n gallu gwneud hynny, yna bydd rhaid iddyn nhw wario llai, fydd yn arwain at ddiswyddo staff.

“Mae gan ysgolion ran cynyddol yn y gwaith o gefnogi plant a’u teuluoedd, ond mae disgwyl i ni wneud hynny er ein bod ni’n cael llawer llai o adnoddau.

“Yn y pen draw, y plant yn ein cymunedau fydd yn dioddef – maen nhw’n haeddu gwell.”

‘Penderfyniadau anodd’

Dywed y Cynghorydd Charlie McCoubrey, arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, fod pob cynghorydd yn y sir yn “llwyr ymwybodol” o’r diffyg ariannol mae’r Cyngor yn ei wynebu o ganlyniadau i chwyddiant, prisiau ynni, galw cynyddol am eu gwasanaethau a chodiadau cyflog cenedlaethol.

“Fel awdurdodau eraill ledled y Deyrnas Unedig, fydd gan y cyngor ddim dewis ond gwario llai mewn sawl maes a chynyddu’i incwm, sydd yn debygol o gael effaith ar lefel y gwasanaeth sy’n cael ei gynnig.

“Mae’n anochel y bydd rhaid i gynghorwyr wneud penderfyniadau anodd pan fyddan nhw’n cwrdd i benderfynu ar y gyllideb derfynol ar Chwefror 29.”