Mae mudiad Foras na Gaeilge yn bwriadu agor canolfan i siaradwyr Gwyddeleg newydd yn ninas Belfast.

Maen nhw’n ceisio cyfarfod ag Ysgrifennydd Gwladol Gogledd Iwerddon i drafod y mater, ac mae cofnodion cyfarfod yn dweud y byddai’r ganolfan newydd yn un “ddehongli” gyda’r pwyslais ar “gymunedau sydd heb fynediad at yr iaith Wyddeleg ar hyn o bryd”, yn ôl adroddiadau yn y wasg.

Yn ôl Foras na Gaeilge, byddai’r ganolfan yn mynd i’r afael â “diffyg gwybodaeth difrifol” y cyhoedd am yr iaith, ac yn “cynyddu dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth y cyhoedd o bwysigrwydd yr iaith Wyddeleg, ei threftadaeth a’i pherthnasedd i’r gymdeithas ar yr ynys yn fawr iawn”.

Mae lle i gredu mai’r bwriad yw rhentu ac nid prynu adeilad gan y byddai costau ychwanegol ynghlwm wrth agor y fath ganolfan.

Roedd adroddiadau yr wythnos ddiwethaf fod Foras na Gaeilge yn ceisio cyfarfod â’r Taoiseach, neu Brif Weinidog, i drafod dyfodol y sefydliad iaith fel rhan o fudiad trawsffiniol.