Bydd meddygon iau yng Nghymru’n streicio unwaith eto fel rhan o’r anghydfod tros gyflogau.

Bydd y streic gyntaf o 72 awr yn digwydd o ddydd Mercher (Chwefror 21) tan ddydd Sadwrn (Chwefror 24).

Bydd yr ail streic, dros gyfnod o 96 awr, yn cael ei chynnal rhwng Mawrth 25-29.

Daw’r cyhoeddiad yn dilyn streic 72 awr gan feddygon iau ym mis Ionawr, ac mae Llywodraeth Cymru’n dweud bod y cyhoeddiad diweddaraf yn un “siomedig”.

Cefndir

Dechreuodd y streiciau ym mis Ionawr, ar ôl i 98% o feddygon iau yng Nghymru gymerodd ran yn y bleidlais dros weithredu diwydiannol bleidleisio o blaid streicio wrth geisio adfer cyflogau.

Gallai’r camau gweithredu nesaf olygu unwaith eto fod dros 3,000 o feddygon â hyd at 11 mlynedd o brofiad y tu allan i’r ysgol feddygol yn tynnu eu llafur o ysbytai a meddygfeydd ledled Cymru i fynd ar drywydd bargen “decach” ar gyfer eu gwasanaeth.

Gwnaeth pwyllgor meddygon iau Cymru’r penderfyniad i ofyn i aelodau bleidleisio ym mis Awst y llynedd, ar ôl cael cynnig cyflog is na chwyddiant arall o 5% – y gwaethaf yng ngwledydd Prydain ac yn is na’r hyn gafodd ei argymell gan y DDRB, y corff adolygu ar gyfer tâl meddygon a deintyddion.

Cafodd y cynnig ei gyflwyno i’r meddygon bedwar mis ar ôl i Lywodraeth Cymru ddatgan yn wreiddiol y bydden nhw’n ymrwymo i’r egwyddor o adfer cyflogau fis Ebrill diwethaf.

‘Dim dewis’

“Ar ôl ein gweithredu diwethaf, ysgrifennom at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ac rydym yn parhau i fod yn barod i fynd i drafodaethau os bydd cynnig credadwy yn cael ei gyflwyno gan Lywodraeth Cymru,” meddai Dr Oba Babs-Osibodu a Dr Peter Fahey, cyd-gadeiryddion pwyllgor meddygon iau BMA Cymru.

‘Rydym yn barod o hyd i drafod’

“Ar ôl ein rownd ddiwethaf o weithredu, fe wnaethon ni ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ac rydym yn barod o hyd i drafod pe bai cynnig credadwy yn cael ei gyflwyno gan Lywodraeth Cymru,” meddai Dr Oba Babs-Osibodu a Dr Peter Fahey, cyd-gadeiryddion pwyllgor meddygon iau BMA Cymru.

“Does yna’r un meddyg eisiau streic, ond tra bydd y rhai mewn grym yn methu deall difrifoldeb y sefyllfa a chryfder y teimladau ymhlith ein haelodau, rydym yn teimlo ein bod ni wedi ein gadael heb ddewis.

“Allwn ni ddim derbyn yr annerbyniol ragor.

“Ar ôl blynyddoedd o danbrisio ein gwasanaeth achub bywydau, dydy ein penderfynoldeb erioed wedi bod yn gryfach.

“Gydag aelodaeth ar ei lefel uchaf erioed, rydym bellach yn undeb cryfach, mwy o faint, a gyda’n gilydd rydym yn parhau’n gadarn yn ein nod o adfer ein cyflog sydd wedi’i dorri gan bron i draean.

“Bydd meddyg yn dechrau ar eu gyrfa yng Nghymru’n ennill cyn lleied â £13.65 yr awr, ac am hynny fe allen nhw fod yn cwblhau triniaethau achub bywyd a chymryd lefelau uchel o gyfrifoldeb.

“Dydyn ni ddim yn gofyn am godiad cyflog – rydyn ni’n gofyn am adfer ein cyflogau’n unol â chwyddiant ar lefelau 2008, pan ddechreuon ni dderbyn toriadau cyflogau mewn termau real.

“Mae angen i dâl fod yn deg a chystadleuol â systemau gofal iechyd eraill ledled y byd i gadw a recriwtio meddygon a staff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol er mwyn darparu gofal mawr ei angen.

“Ar ben hyn, mae meddygon iau yn profi amodau sy’n gwaethygu o ganlyniad i fylchau sylweddol yn y gweithlu, ac felly mae mwy a mwy o feddygon bellach yn ceisio gadael Cymru er mwyn datblygu eu gyrfaoedd am dâl gwell a bywyd mwy safonol yn rhywle arall.”