Mae Prif Gwnstabl Heddlu Gwent wedi ymddiheuro am homoffobia’r gorffennol a’r ffordd y cafodd y gymuned LHDTC+ ei thrin o ran y ffordd y cafodd y gyfraith ei gweithredu.

Mewn llythyr at yr ymgyrchydd Peter Tatchell, mae Pam Kelly yn dweud ei bod hi’n difaru’r niwed gafodd ei achosi wrth i’r heddlu ymateb i achosion o dorri cyfreithiau hynafol.

Dywed y llythyr fod yr heddlu’n “cydnabod fod ein cymunedau LHDTC+ wedi’u heffeithio’n anghymesur”, a’u bod nhw’n “deall y bydd anghyfiawnderau ac anghydraddoldeb y gorffennol wedi cael effaith barhaus ar yr ymddiriedaeth yn ein gwasanaeth gan aelodau’r cymunedau hyn”.

Dyma’r ymddiheuriad cyntaf o’i fath yng Nghymru, a’r degfed yn unig ledled gwledydd Prydain, ac fe ddaw fel rhan o’r ymateb i’r ymgyrch #ApologiseNow gan Sefydliad Peter Tatchell.

‘Diolchgar’

Wrth ymateb, mae Peter Tatchell wedi mynegi ei “ddiolchgarwch enfawr” i Pam Kelly am yr ymddiheuriad.

“Mae rhai pobol mewn grym yn ei chael hi’n anodd dweud ‘Sori’ am fod yn anghywir yn y gorffennol,” meddai.

“Wnaeth Pam Kelly ddim oedi nac osgoi’r angen am ymddiheuriad clir.

“Mae hynny’n ei gwneud hi’n bennaeth heddlu clodwiw.

“Rydym yn diolch iddi hi a’i swyddogion.

“Mae’r ymddiheuriad yma’n destun balchder i Heddlu Gwent, ac fe fydd yn ennyn tipyn o werthfawrogiad a chlod gan y gymuned LHDTC+.

“Bydd yn mynd yn bell wrth sicrhau perthynas fwy adeiladol a chydweithredol rhwng Heddlu Gwent a phobol LHDTC+ – gan adeiladu rhagor o ymddiriedaeth a chydweithio.

“Mae’n barhad clodwiw o’r gwaith gwych y bu’r heddlu’n ei wneud dros y blynyddoedd diwethaf.

“Gobeithio y bydd yn ysbrydoli rhagor o LHDTau i adrodd am droseddau casineb, trais yn y cartref ac ymosodiadau rhyw.”

Mae’r Sefydliad yn parhau i annog pob Prif Gwnstabl i ymddiheuro yn yr un modd am eu hymddygiad yn y gorffennol.