Flwyddyn yn ôl i heddiw (dydd Mawrth, Chwefror 6), gwyliodd pobol Cymru ag arswyd wrth i’r newyddion dorri am y daeargrynfeydd dinistriol effeithiodd ar dde Twrci a gogledd-orllewin Syria.
Tarodd y daeargryn cyntaf am 4.17yb, wrth i’r rhan fwyaf o bobol gysgu, ac roedd crynfeydd sylweddol i’w teimlo dros ardal o ryw 140,000 milltir sgwâr – ardal ddaearyddol sy’n fwy na’r Deyrnas Unedig ac Iwerddon.
Hawliodd y trychineb hwn fwy na 56,000 o fywydau, a chafodd dros 300,000 o adeiladau eu chwalu neu eu difrodi’n wael.
Bellach, mae’r Pwyllgor Argyfyngau Brys (DEC) wedi cadarnhau bod rhoddion i Apêl Daeargryn Twrci-Syria bellach wedi cyrraedd dros £158m yn y Deyrnas Unedig, gyda £4.7m o’r swm wedi’i godi yng Nghymru, gan gynnwys rhodd o £300,000 gan Lywodraeth Cymru.
Daeth £5m gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig mewn arian cyfatebol Aid Match.
Yn ôl Gwasanaeth Olrhain Ariannol y Cenhedloedd Unedig (OCHA), ymateb DEC oedd yr ymateb mwyaf i’r daeargryn gan elusen, a’r apêl oedd y drydedd fwyaf ers sefydlu’r DEC 60 mlynedd yn ôl.
Mae adroddiad cynnydd newydd sydd wedi’i gyhoeddi gan yr elusen yn dangos bod rhoddion y cyhoedd yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig wedi galluogi elusennau DEC a’u partneriaid lleol i gefnogi mwy na miliwn o bobol ar draws y ddwy wlad yn ystod y chwe mis cyntaf wedi’r trychineb.
Darparodd elusennau DEC a’u partneriaid lleol fwyd, dŵr glân, dillad cynnes, cymorth seicolegol a mwy, gan wneud gwahaniaeth enfawr i bobol gollodd eu hanwyliaid, eu cartrefi a’u bywoliaethau.
Bu modd i rai o elusennau’r DEC ymateb i’r trychineb o fewn oriau, diolch i’r presenoldeb rhanbarthol a chyflenwadau oedd eisoes ganddyn nhw yn eu lle. Un o’r rhain oedd Islamic Relief.
Profiad gweithiwr dyngarol
Fe wnaeth Salah Abulgasem, sy’n Gymro ac yn weithiwr dyngarol gyda mwy nag ugain mlynedd o brofiad, gyrraedd Twrci ar noson y trychineb gyda’r nod o gefnogi gwaith timau rhanbarthol yr elusen, a gwneud asesiad anghenion brys.
“Roedd yr oerni’n anioddefol,” meddai. “Roedd yn treiddio i fer eich esgyrn.
“Roedd hi mor anodd amgyffred graddfa’r dinistr o’n cwmpas.
“Roedd yn glir i ni o’r cychwyn cyntaf fod hyn yn drychineb enfawr, ac y byddai angen i ni ymrwymo i fod yno am y tymor hir.”
Esbonia fod modd i’w timau ddechrau dosbarthu cyflenwadau ar unwaith.
“Roedd galw mawr am flancedi,” meddai.
“Cafodd bwyd, llaeth powdr i fabanod a nwyddau hylendid eu dosbarthu.
“Roeddwn i’n ymwybodol iawn o faint o’n staff lleol ni oedd yna yn cynorthwyo eraill, oedd hefyd yn oroeswyr ac wedi cael eu heffeithio yn bersonol.
“Wna i fyth anghofio sut y byddai un o’m cydweithwyr yn mynd i angladdau aelodau o’i deulu agos neu estynedig ddydd ar ôl dydd. Yna, byddai’n dod i’r gwaith.
“Roeddwn i’n gweld hynny’n arwrol, ond roeddwn i hefyd yn poeni amdano.
“Ond dw i wedi dysgu bod gan bawb ffyrdd gwahanol o ymdopi, ac i rai mae ymroi i’r gwaith o helpu eraill yn gallu bod yn gysur.”
Y sefyllfa heddiw
Flwyddyn yn ddiweddarach, mae’r difrod gafodd ei achosi gan y daeargryn yn dal i fod yn amlwg yn Nhwrci.
Mae’r llywodraeth wedi symud y rhan fwyaf o bobol o bebyll i wersylloedd wedi’u gwneud o gynwysyddion llongau.
Mae arian DEC wedi cael ei ddefnyddio i gefnogi pobol yn y gwersylloedd, gan ddarparu arian parod a thalebau ar gyfer archfarchnadoedd, toiledau, hanfodion hylendid a llawer mwy.
Yn y cyfamser yng ngogledd orllewin Syria, mae’r daeargrynfeydd wedi dod ar ben trallod ddeuddeg mlynedd o ryfel cartref.
Heb unrhyw ymateb cydgysylltiedig cyffredinol mewn gwlad sy’n dal i fod yn rhanedig, mae elusennau DEC wedi bod yn darparu’r hanfodion sylfaenol sydd eu hangen ar bobol i oroesi, fel bwyd a dŵr glân, yn ogystal â gwasanaethau iechyd.
Wrth i fwy o bobol golli eu cartrefi, roedd straen aruthrol ar y gwersylloedd oedd eisoes yn orlawn.
Cafodd tanciau a phibellau dŵr eu difrodi hefyd, gan godi pryderon byddai colera, oedd eisoes yn yr ardal, yn lledu.
“Roedd ein timau yn Syria yn wynebu sefyllfa hollol wahanol o’r cychwyn cyntaf,” meddai Salah Abulgasem.
“Doedd dim o’r peiriannau, offer neu’r arbenigedd roedden ni wedi’u gweld yn Nhwrci.
“Roedd pobol yn cloddio gyda’u dwylo. Cafodd llawer o fywydau eu colli oherwydd hynny.
“Ar ôl blynyddoedd o wrthdaro, roedd y sector iechyd eisoes wedi’i orlethu.
“Roedd yr ysgolion yn orlawn, a lloches eisoes yn brin.
“Yna, gwaethygodd y daeargryn yr holl heriau hyn i lefel hollol newydd.
“Rydym bellach yn gweithio i ddychwelyd i’r sefyllfa roeddem ynddi cyn y daeargryn.
“Mae hi wedi bod mor anodd i weld hyn.”
Uchafbwyntiau ymateb DEC
Yn ystod chwe mis cynta’r ymateb, defnyddiodd elusennau DEC a’u partneriaid lleol £31.5m o arian DEC i ddarparu cymorth i fwy na miliwn o bobol.
Roedd hyn yn cynnwys:
- mynediad at ddŵr yfed diogel i 921,000 o bobol
- parseli bwyd brys neu dalebau i brynu bwyd i 269,000 o bobol
- taliadau arian parod neu dalebau i 285,000 o bobol i ddiwallu eu hanghenion sylfaenol
- citiau hylendid, gan gynnwys sebon golchi dillad a hylif golchi llestri, sebon, past dannedd a brwshys dannedd i 186,000 o bobol
- citiau cartref i 150,000 o bobol yn cynnwys blancedi, eitemau cegin a dillad,
- mynediad at ofal iechyd i 42,300 o bobol, gan gynnwys meddyginiaethau ac eitemau meddygol
- cymorth iechyd meddwl neu seicogymdeithasol i 34,100 o bobol
Yn ystod ail gyfnod yr ymateb ar hyn o bryd, mae elusennau sy’n aelodau o DEC a’u partneriaid lleol yn parhau i ganolbwyntio ar ddarparu taliadau arian parod a thalebau yn ogystal â mynediad at ddŵr glân, a gofal iechyd.
Mae yna bwyslais cynyddol ar ailadeiladu bywoliaethau pobol er mwyn eu galluogi nhw i gynnal eu hunain.
Bydd y gwaith yn parhau tan Ionawr y flwyddyn nesaf.
‘Cefnogaeth hael yn gwneud gwahaniaeth’
“Rydym am i bobol wybod bod eu cefnogaeth hael wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, ac yn parhau i wneud gwahaniaeth, i gannoedd o filoedd o bobol,” meddai Siân Stephen, Rheolwr Cysylltiadau Allanol DEC Cymru.
“Ers y daeargrynfeydd, mae’r goroeswyr wedi gorfod wynebu heriau lu, o’r llifogydd a darodd ym mis Ebrill, gan effeithio ar filloedd o bobol, i’r don gwres 40 gradd dros yr haf.
“Bu poblogaeth Syria hefyd yn wynebu ailgydio yn y brwydro yn ystod yr hydref ac, wrth gwrs, bellach mae gaeaf rhewllyd arall bellach wedi cyrraedd.
“Mae elusennau DEC wedi ymateb yn hyblyg i’r heriau hyn, ac yn barod i barhau i wneud.
“Tra bo’r anghenion yn parhau i fod yn enfawr, mae’r DEC yn cynrychioli clymblaid anhygoel o elusennau, a chanddyn nhw ystod eang o arbenigeddau.
“Mae eu gwaith nhw, a’u partneriaethau gydag elusennau ar lawr gwlad yn Nhwrci a Syria, yn parhau.”