Seibr-fwlio, camwybodaeth a rheoleiddio annigonol o apiau yw rhai o’r materion sy’n peri’r mwyaf o boen meddwl i bobol ifanc o ran diogelwch ar-lein, yn ôl grŵp o bobol ifanc o Gymru.
I nodi Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel, bydd Llywodraeth Cymru ac Undeb Rygbi Cymru yn croesawu grwpiau ysgol o bob rhan o Gymru i ddigwyddiad yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd.
Bydd gweithgareddau a sesiynau yn rhoi llwyfan i bobol ifanc rannu eu barn ac i fynegi pryderon am y byd ar-lein sy’n newid yn barhaus.
‘Codi ymwybyddiaeth, addysgu a gwrando’
Fel rhan o’r digwyddiad, bydd disgyblion yn cwrdd â staff Undeb Rygbi Cymru i drafod y gwaith sy’n cael ei wneud ganddyn nhw i gadw chwaraewyr a’u teuluoedd yn ddiogel ar-lein ac i rannu eu profiadau eu hunain.
Byddan nhw hefyd yn cael cyfle i glywed gan E-Chwaraeon Cymru ac YGAM, elusen i atal niwed yn sgil hapchwarae a gamblo ar-lein, am bwysigrwydd ymddygiad cyfrifol a pharchus ar-lein, yn dilyn lansiad diweddar cynghrair E-Chwaraeon Cymru.
“Mae Llywodraeth Cymru yn falch o gefnogi Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel,” meddai Jeremy Miles, Gweinidog Addysg a’r Gymraeg yn Llywodraeth Cymru.
“Mae diogelwch ar-lein yn fater sy’n esblygu, ac mae’n hanfodol ein bod yn parhau i gefnogi’r sgwrs bwysig hon.
“Un o’r ffyrdd gorau o ddiogelu ein pobol ifanc yw drwy godi ymwybyddiaeth, addysgu a gwrando ar bobol ifanc.
“Mae’r digwyddiad heddiw yn galluogi pobol ifanc i siarad am yr hyn sydd bwysicaf iddyn nhw.”
Yn ogystal â’r digwyddiad heddiw, bydd gweithgareddau yn cael eu cynnal drwy gydol yr wythnos i hyrwyddo’r defnydd cyfrifol a chadarnhaol o dechnoleg ddigidol yn yr ysgol a’r tu allan.
Achos Brianna Ghey
Daw Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel dri mis wedi i’r Bil Diogelwch Ar-Lein ddod i rym.
Y bwriad yw ceisio gorfodi cwmnïau technoleg i gymryd mwy o gyfrifoldeb am y cynnwys ar eu platfformau.
Mae’r gyfraith yn rhoi’r cyfrifoldeb ar gwmnïau i amddiffyn plant rhag rhywfaint o ddeunydd cyfreithiol ond niweidiol, gyda’r rheoleiddiwr Ofcom yn cael pwerau gorfodi ychwanegol.
Mae’n cyflwyno rheolau newydd, er enghraifft ei gwneud yn ofynnol i safleoedd pornograffi atal plant rhag gwylio cynnwys drwy wirio oedrannau.
Mae’r gyfraith hefyd yn gofyn i blatfformau ddangos eu bod nhw wedi ymrwymo i gael gwared ar gynnwys anghyfreithlon.
Ond mae angen mynd gam ymhellach, yn ôl mam Brianna Ghey, gafodd ei llofruddio y llynedd.
Mae hi’n galw am wahardd y cyfryngau cymdeithasol ar ffonau pobol ifanc dan 16 oed.
Dywedodd Esther Ghey wrth raglen Sunday with Laura Kuenssberg fod y we fel “y gorllewin gwyllt”, ac nad oes modd i rieni wybod beth mae eu plant yn ei wneud ar-lein.
Cafodd Scarlett Jenkinson ac Eddie Ratcliffe, sydd yn 16 oed, eu dedfrydu yn Llys y Goron Manceinion ddydd Gwener (Chwefror 2) am lofruddio Brianna Ghey.
Roedd Scarlett Jenkinson, oedd wedi lladd Brianna Ghey, wedi gwylio fideos o drais ac artaith ar-lein.
Cynllwyniodd hi’r llofruddiaeth gydag Eddie Ratcliffe gan ddefnyddio apiau negeseuon.
Mae Esther Ghey bellach wedi lansio deiseb, ac mae hi’n dweud bod angen i gwmnïau hefyd dynnu sylw rhieni os ydy plant yn chwilio am ddeunydd amhriodol ar-lein.