Bydd mwy o ofynion ar wefannau a chyfryngau cymdeithasol i warchod cynulleidfaoedd iau rhag deunydd graffig neu bornograffig o dan fesurau newydd Ofcom.

Mae’r corff rheoleiddio wedi cyhoeddi’r mesurau mewn ymgais i fynd i’r afael â cham-drin plant ar y we, fel rhan o’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein.

Fel rhan o’r mesurau newydd, fydd rhestrau ffrindiau ddim yn cael eu hawgrymu i blant, a fydd plant ddim yn ymddangos ar restrau ffrindiau pobol eraill.

Yn ogystal, all defnyddwyr sydd ddim yn rhan o restrau ffrindiau plant anfon negeseuon uniongyrchol atyn nhw.

Yn ôl ymchwil gan Ofcom yn ddiweddar, mae tua un ym mhob chwech o blant wedi derbyn lluniau noeth neu rannol noeth, neu wedi cael cais i rannu lluniau ohonyn nhw eu hunain.

Mae’r Fonesig Melanie Davies, Prif Weithredwr Ofcom, yn pryderu nad oedd y mesurau blaenorol yn ddigon llym.

“Mae ein ffigurau’n dangos bod y rhan fwyaf o blant ysgol uwchradd wedi derbyn cysylltiad ar-lein mewn ffordd sy’n gwneud iddynt deimlo’n anesmwyth,” meddai.

“Petai’r cysylltiadau digroeso hyn yn digwydd mor aml yn y byd allanol, go brin y byddai’r rhan fwyaf o rieni am i’w plant adael y tŷ.”

Cynnydd o 82% dros bum mlynedd

Er bod Syr Peter Wanless, Prif Weithredwr yr NSPCC, yn croesawu’r mesurau, dywed fod y broblem wedi gwaethygu yn y cyfamser.

“Yn y pum mlynedd mae wedi’u cymryd i gael y Ddeddf Diogelwch Ar-lein ar y llyfr statud, mae troseddau yn ymwneud a pherthynas amhriodol â phlant ar-lein wedi cynyddu yn syfrdanol o 82%,” meddai.

“Dyna pam mae cymaint o groeso i ffocws Ofcom ar fynd i’r afael â meithrin perthynas amhriodol â phlant, gyda’r côd ymarfer hwn yn amlinellu’r mesurau lleiaf y dylai cwmnïau fod yn eu cymryd i amddiffyn plant yn well.

Dywedodd eu bod yn “edrych ymlaen” at weithio gydag Ofcom i sicrhau bod y mesurau yn “helpu i adeiladu rheoleiddio beiddgar ac uchelgeisiol sy’n gwrando ar leisiau plant.”

Bydd Ofcom yn gobeithio ymyrryd ymhellach erbyn gwanwyn 2024, drwy fynd i’r afael â seibrfwlio a deunydd sy’n hyrwyddo hunan-niwed.