Mae cynghorydd ym Mhowys yn dweud bod y penderfyniad i gau Canolfan y Dechnoleg Amgen ym Machynlleth i’r cyhoedd yn un “siomedig”, ond nad yw’n ei “synnu” chwaith.

Daw sylwadau Elwyn Vaughan, cynghorydd Plaid Cymru yng Nglantwymyn ym Mhowys, yn dilyn y cyhoeddiad bod y ganolfan am gau i ymwelwyr, gan roi 14 o swyddi yn y fantol.

Mewn datganiad, dywed y ganolfan fod y penderfyniad wedi’i wneud ar sail sawl ffactor, gan gynnwys costau cynyddol, gostyngiad yn nifer yr ymwelwyr, ac oedi o ran y gyllideb.

Ond dywed y prif weithredwyr y bydd cau’r ganolfan i ymwelwyr yn eu helpu i gyflawni eu cenhadaeth “i greu a rhannu atebion ymarferol i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur”.

“Yn anffodus, mae 14 o swyddi mewn perygl yn CyDA [Canolfan y Dechnoleg Amgen] ac mae ymgynghoriad llawn yn digwydd dros o leiaf 14 diwrnod,” meddai Eileen Kinsman a Paul Booth.

“Mae lles staff o’r pwys mwyaf, ac rydym yn darparu cymorth arbenigol i staff yn ystod y cyfnod anodd hwn.”

‘Rôl bwysig ers 50 mlynedd’

Yn ôl Elwyn Vaughan, mae’r ganolfan “uchel ei pharch” wedi chwarae “rôl bwysig ers 50 mlynedd wrth dynnu sylw at heriau a chyfleoedd amgylcheddol”.

“Bu’n gweithio i sicrhau buddsoddiad ariannol ers nifer o flynyddoedd drwy Fargen Twf Canolbarth Cymru, i ddiweddaru ac adnewyddu’r cyfleusterau ar gyfer ymwelwyr dydd,” meddai.

“Mae’n destun rhwystredigaeth, felly, fod y prosesau biwrocrataidd enfawr sydd wedi’u gorfodi ar y Fargen Twf gan Lywodraeth ganolog nid yn unig yn atal buddsoddiad mawr ei angen ond hefyd yn bygwth dichonolrwydd cyfleusterau pwysig fel y Ganolfan Dechnoleg Amgen.

“Mae’n hanfodol fod camau brys yn cael eu cymryd i dorri’r sefyllfa fiwrocrataidd.

“Mae hefyd yn bwysig pwysleisio y bydd y Ganolfan Dechnoleg Amgen yn parhau’n ganolfan ragoriaeth wrth ddarparu hyfforddiant a chyrsiau gradd, ac felly mae ganddi rôl bwysig i’w chwarae ar gyfer y dyfodol.”

 

Cau canolfan dechnoleg amgen ym Mhowys i ymwelwyr

Mae 14 o swyddi yn y fantol oherwydd y penderfyniad