Mae cwestiynau wedi’u codi ynghylch setliad o £325,000 i gyn-gyfarwyddwr Amgueddfa Cymru.
Yn ôl Mark Isherwood, cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus y Senedd, mae’r taliad yn destun pryder.
Daw hyn wedi i Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol Cymru, fynegi pryderon hefyd am benderfyniadau Amgueddfa Cymru fis diwethaf.
“Ein prif bryder, fel Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus y Senedd, yw cost hyn oll i’r pwrs cyhoeddus,” meddai Mark Isherwood.
“Mae cyfanswm cost y setliad dal yn aneglur, ond mae adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol yn awgrymu ei fod dros £750,000, ar ôl talu costau cyfreithiol a chostau ymgynghori, gyda £325,698 o hwn wedi’i ddyfarnu i’r Cyfarwyddwr Cyffredinol ar ei ymadawiad.
“Mae’n bryder nad oedd yr anghydfod wedi ei ddatrys ynghynt a’i fod wedi achosi costau syfrdanol, y gellid bod wedi osgoi rhai ohonyn nhw.”
Cynnal sesiynau craffu
Bydd sesiynau craffu yn cael eu cynnal ar Dachwedd 16 a 29 er mwyn ymchwilio i’r trefniadau llywodraethu ar y pryd.
Yn rhan o’r taliad gafodd ei wneud i David Anderson, y cyn Brif Weithredwr, roedd £50,000 am “frifo ei deimladau”.
“Rydym wedi codi pryderon yn y gorffennol am reolaeth Llywodraeth Cymru ar ei chyrff hyd braich, a ph’un a yw’r gweithdrefnau ar gyfer adrodd am broblemau a materion dadleuol wedi gweithio,” meddai Mark Isherwood.
“Rydym am wybod sut y cafodd hyn ddigwydd o dan oruchwyliaeth Llywodraeth Cymru, a beth fydd yn digwydd nawr er mwyn atal hyn rhag digwydd eto gyda’r holl gyrff mae ganddi gyfrifoldeb amdanyn nhw.”
Yng nghyfarfod nesa’r Pwyllgor, byddan nhw’n ceisio canfod sut mae’r Cyfarwyddwr Cyffredinol a’r Llywydd presennol yn bwriadu sicrhau sefydlogrwydd yn y sefydliad wrth symud ymlaen ac “adfer ei enw da”.
Effaith ar y pwrs cyhoeddus
Yr effaith ar y pwrs cyhoeddus a gwendidau mewn trefniadau llywodraethu yw prif bryderon yr Archwilydd Cyffredinol hefyd.
“Mae fy adroddiad yn disgrifio gwendidau mewn trefniadau llywodraethu a pherthnasoedd ar y lefel uchaf mewn sefydliad cyhoeddus pwysig,” meddai.
“Mae datrys y sefyllfa honno wedi costio swm sylweddol o arian i bwrs y wlad, a allai fod wedi cael ei osgoi.
“Gobeithio bod fy adroddiad yn fodd i atgoffa’r holl gyrff cyhoeddus ynghylch pwysigrwydd rhoi fframweithiau ac egwyddorion llywodraethu ar waith mewn modd priodol i ddiogelu arian cyhoeddus a hyder y cyhoedd.”
Dywed Mark Isherwood fod pryderon ynghylch trefniadau llywodraethu wedi’u codi fis Ionawr y llynedd yn wreiddiol.
Honnir bod “rhaid bod y staff wedi teimlo effaith hyn a’i fod wedi amharu ar gynnydd y sefydliad a’i ddull o ddarparu gwasanaeth i’r cyhoedd”.
“Amgueddfa Cymru yw un o brif sefydliadau Cymru, wrth wraidd treftadaeth a diwylliant ein gwlad,” meddai.