Mae cynllun cymorth amaethyddol dros dro sydd wedi’i lansio yn cael ei ddisgrifio fel “llanast”, gyda rhai ffermwyr yn wynebu gostyngiadau o 90% yn eu taliadau.

Mae Aelodau o’r Senedd sy’n cynrychioli’r Ceidwadwyr, Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi ychwanegu eu lleisiau at fonllef o feirniadaeth ynghylch cynllun Cynefin Cymru Llywodraeth Cymru.

Cynefin Cymru sy’n dod yn lle cynllun rheoli tir cynaliadwy Glastir, sy’n dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn, hyd nes bod Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd yn cael ei lansio yn 2025.

Wrth gwestiynu’r gweinidog priodol, dywedodd Samuel Kurtz wrth Aelodau’r Senedd nad oedd Llywodraeth Cymru wedi cynnal modelu economaidd i helpu i ddatblygu Cynefin Cymru.

“Mae e wedi bod yn llanast,” meddai’r Aelod Ceidwadol o’r Senedd dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro.

Ychwanegodd fod awgrymiadau bod rhanddeiliaid wedi bod ynghlwm wrth ddatblygu’r cynllun wedi cael eu gwrthwynebu’n ffyrnig.

“Dw i’n anghytuno’n llwyr â chi ei fod e’n llanast,” meddai Lesley Griffiths.

“Mewn gwirionedd, roedd hyn yn rywbeth roedd yr undebau amaeth, yn enwedig NFU Cymru, eisiau i fi ei gyflwyno.”

‘Damniol’

Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig wrth y Senedd y dylai pobol fod wedi pleidleisio o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd os ydyn nhw am gyllideb ragweladwy am saith mlynedd.

“Dyna oedd gennym ni pan oedden ni yn yr Undeb Ewropeaidd, ac fe gawson ni’r arian hwnnw bob blwyddyn,” meddai.

“Gallwn i ei gario drosodd hefyd, a’i ymestyn.

“Mae hynny wedi mynd – mae’r hyblygrwydd yna wedi mynd.”

Eglurodd nad oedd dadansoddiad economaidd wedi’i gwblhau gan fod y cynllun wedi’i gyflwyno’n gyflym ar gais y sector, gan ychwanegu bod 1,600 o ffermwyr wedi cofrestru.

Dywedodd Sam Kurtz fod gan weinidogion y grym i gynnal Glastir.

“Rydyn ni wedi gweld hynny yn yr Alban, rydyn ni wedi gweld hynny yn Lloegr…,” meddai.

“Fe wnaethoch chi sôn fod 1,600 o ffermwyr wedi cofrestru. 3,000 o gytundebau Glastir yng Nghymru, 17,000 o ffermydd cofrestredig yng Nghymru – mae 1,600 o geisiadau’n dditment damniol.”

Pwysleisiodd Lesley Griffiths fod Llywodraeth Cymru wedi gwarchod y Cynllun Taliad Sylfaenol, y rhaglen gymorth gwledig mwyaf, sydd wedi’i dorri gan 55% yn Lloegr.

‘Dryslyd’

Mae Undeb Amaethwyr Cymru’n amcangyfrif fod 70% o’r ffurflenni Cynefin Cymru y gwnaethon nhw eu dadansoddi’n cynnwys gwallau difrifol yn nhermau mapio cynefinoedd.

“Weinidog, rydych chi wedi amau’r disgrifiad cynharach o gynllun Cynefin Cymru fel llanast, felly gadewch i ni fod yn garedig: rhaid i chi gyfaddef ei fod o wedi bod yn eithaf dryslyd yn nhermau’r ffordd mae rhai o’r materion mapio wedi codi,” meddai Llŷr Gruffydd ar ran Plaid Cymru.

Tynnodd y gweinidog cysgodol sylw at y ffaith nad yw tri chwarter y rheiny yn Glastir yn gwneud cais i’r cynllun dros dro, gan ofyn, “Beth mae hynny’n ei ddweud wrthych chi am gynllun Cynefin Cymru?”

Gan gydnabod fod angen i Lywodraeth Cymru ddysgu gwersi yn sgil Cynefin Cymru, dywedodd Lesley Griffiths ei bod hi’n “derbyn yn sicr yr hyn rydych chi’n ei ddweud am feirniadaeth o fapio”.

Dywedodd Russell George, yr Aelod Ceidwadol o’r Senedd dros Sir Drefaldwyn, ei fod e wedi cyfarfod ag Undeb Amaethwyr Cymru yr wythnos ddiwethaf, a bod ffermwyr yn wynebu toriadau o 65% i 90% os ydyn nhw’n gwneud cais i’r cynllun newydd.

‘Ar ymyl y dibyn’

“Cafodd materion eu codi ynghylch gwallau mapio, gostwng cyfraddau taliadau, ac fel y gwnaethon nhw ei ddweud, ymyl y dibyn ar gyfer cynhyrchwyr organig, sy’n ei gnweud hi’n anodd iddyn nhw ddefnyddio’r cynllun hwn,” meddai Russell George.

Dywedodd Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, wrth i Siambr, “Fe wnes i gyfarfod ag un ffermwraig a’i merch, ac roedd hi yn ei dagrau.

“Dydy hi na’i merch ddim wir yn siŵr sut maen nhw am allu cadw’r staff a’r gymuned maen nhw’n byw ynddi, o ystyried eu bod nhw’n colli arian i’r fath raddau.”

Cododd Peter Fox, yr Aelod Ceidwadol o’r Senedd, bryderon am gefnogaeth i ffermwr organig yn ei etholaeth fydd yn derbyn £700, o gymharu ag £16,000 gan Glastir.

Yn ystod cwestiynau materion gwledig ddydd Mercher (Tachwedd 8), dywedodd Lesley Griffiths ei bod hi’n gobeithio cyflwyno pot o arian ar wahân ar gyfer ffermio organig.

“Dw i’n difaru na allwn i fod wedi parhau â Glastir o ran swm yr arian,” meddai.

“A phe bai Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi rhoi’r arian i ni y gwnaethon nhw addo y bydden nhw’n ei roi, gallwn fod wedi gwneud hynny.”