Mae plaid annibyniaeth Junts per Catalunya wedi dod i gytundeb i gefnogi’r Sosialydd Pedro Sánchez i fod yn Brif Weinidog parhaol Sbaen.
Mae disgwyl i’r blaid roi eu sêl bendith yn swyddogol heddiw (dydd Iau, Tachwedd 9), ar ôl i’r Sosialwyr ildio i’w gofynion o ran yr amnest ar gyfer arweinwyr a chefnogwyr yr ymgyrch annibyniaeth.
Roedd angen cefnogaeth Junts per Catalunya ar y Prif Weinidog dros dro er mwyn sicrhau tymor arall wrth y llyw, ar ôl sicrhau cefnogaeth plaid Esquerra Republicana cyn hynny.
Roedd Junts yn teimlo’n wreiddiol fod testun yr amnest yn annigonol, gan fynnu bod unrhyw gyfraith yn y dyfodol yn cynnwys achosion y tu allan i ymgyrch 2017 hefyd, ac fe fydd e bellach yn cynnwys ymgyrchwyr cyn ac ar ôl 2014 arweiniodd at y refferendwm “anghyfansoddiadol” dair blynedd yn ddiweddarach.
Mae gofyn hefyd i Junts sicrhau sefydlogrwydd y llywodraeth drwy gydol eu tymor wrth y llyw, ac i gefnogi’r llywodraeth os ydyn nhw’n ufuddhau i’r gofynion ynghylch annibyniaeth.
Unwaith fydd Junts per Catalunya yn cadarnhau eu sêl bendith fel gwleidyddion, bydd gofyn i aelodau’r blaid ei gymeradwyo hefyd, ac wedyn mae disgwyl cyhoeddi pryd y bydd y Prif Weinidog yn cael ei gadarnhau’n derfynol.
Protestiadau
Bydd y cytundeb yn destun rhyddhad i Lywodraeth Sbaen, sydd wedi gweld protestiadau mawr yn y brifddinas Madrid dros yr wythnos ddiwethaf.
Maen nhw wedi bod yn protestio y tu allan i swyddfeydd y Sosialwyr chwe noson yn olynol, wrth iddyn nhw gefnogi grwpiau ac ymgyrchwyr asgell dde eithafol.
Mae Plaid y Bobol wedi beirniadu’r protestiadau sydd wedi arwain at anafu 30 o blismyn mewn un noson yr wythnos hon.
Gallai Carles Puigdemont, cyn-arlywydd Catalwnia, elwa ar yr amnest hefyd fel un sydd wedi’i erlyn am ei ran yn yr ymgyrch tros annibyniaeth.