Bydd y ganolfan dechnoleg amgen ym Machynlleth yn cau ei drysau i ymwelwyr, gan adael 14 o swyddi yn y fantol.

Mewn datganiad, dywed y ganolfan fod y penderfyniad wedi’i wneud ar sail sawl ffactor, gan gynnwys costau cynyddol, gostyngiad yn nifer yr ymwelwyr, ac oedi o ran y gyllideb.

Ond dywed y prif weithredwyr y bydd cau’r ganolfan i ymwelwyr yn eu helpu i gyflawni eu cenhadaeth “i greu a rhannu atebion ymarferol i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur”.

Yn anffodus, mae 14 o swyddi mewn perygl yn CyDA [Canolfan y Dechnoleg Amgen] ac mae ymgynghoriad llawn yn digwydd dros o leiaf 14 diwrnod,” meddai Eileen Kinsman a Paul Booth.

“Mae lles staff o’r pwys mwyaf, ac rydym yn darparu cymorth arbenigol i staff yn ystod y cyfnod anodd hwn.”

Ailagor?

Er na fydd y ganolfan ar agor i ymwelwyr, bydd yn parhau i gyflawni ei swyddogaethau eraill.

“Mae CyDA yn parhau i fod yn ymrwymedig iawn i’w chynlluniau ailddatblygu ehangach arfaethedig, sy’n cynnwys gwelliannau sylweddol i’r hyn a gynigir i ymwelwyr,” meddai’r prif weithredwyr.

“Mae’r cynigion hyn yn dal i gael eu hystyried ar gyfer cyllid gan Fargen Twf Canolbarth Cymru a ffynonellau eraill.”

Unwaith gaiff yr arian ei sicrhau, bydd modd ailagor i ymwelwyr dydd, “gan ddarparu cyfleoedd twristiaeth ac addysg ychwanegol i gymunedau Canolbarth Cymru a thu hwnt”.

Fydd cwrs byr Ysgol yr Amgylchedd i Raddedigion, Hwb Prydain Ddi-Garbon a’r Labordy Arloesedd ddim yn cael eu heffeithio gan y newidiadau.

Mae’r ganolfan yn croesawu rhoddion er mwyn helpu i dalu costau darparu addysg ac ymchwil amgylcheddol yn y cyfamser.

Pryder am y gymuned

Wedi’r cyhoeddiad y bydd y ganolfan ar gau i ymwelwyr o heddiw (Tachwedd 9), mae arweinwyr cynghorau Powys a Cheredigion yn dweud eu bod nhw’n monitro’r sefyllfa.

Dywed y Cynghorwyr Bryan Daves a James Gibson-Watt eu bod yn “pryderu” am effeithiau’r cyhoeddiad ar unigolion a’r gymuned.

“Cyfarfu’r ddau ohonom â Chadeirydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr a Phrif Weithredwr CyDA ddoe i gynnig ein cefnogaeth lawn,” meddai’r ddau mewn datganiad ar y cyd.

“Mae CyDA yn ased i Ganolbarth Cymru a’i heconomi – a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i’w cefnogi drwy’r cyfnod anodd hwn.

“O ran Bargen Twf Canolbarth Cymru, rydym yn gweithio i ddeall y sefyllfa a’r effaith a ragwelir ar y cynnig am gyllid.”

Maen nhw’n dweud nad oes unrhyw brosiect wedi derbyn cyllid gan y Cynllun Twf ar hyn o bryd, oherwydd bod y prosiectau’n dal i weithio ar eu hachosion busnes.

“Mae dilyn canllawiau’r Llywodraeth yn gadarn yn hanfodol i sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei fuddsoddi’n ddoeth mewn cynlluniau sy’n gynaliadwy yn y tymor hir,” meddai’r ddau.

“Ni fyddai’n briodol i ni wneud sylw pellach ar hyn o bryd.”