Bydd angen i Wasanaeth Iechyd Gwladol Cymru ddod o hyd i £65m mewn arbedion ychwanegol er mwyn cydbwyso gorwariant.
Mae Eluned Morgan, Gweinidog Iechyd Cymru, yn dweud y bydd angen gostwng gorwariant y byrddau iechyd gan 10%.
Daw hyn ar ben y £460m mewn cyllid ychwanegol gafodd ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru yn eu cyllideb ddiweddaraf.
Bydd yr arian ychwanegol yn hwb o ran costau ynni cynyddol.
Mewn datganiad, dywed y Gweinidog Iechyd fod y Gwasanaeth Iechyd yn wynebu heriau ariannol, ac yn dal i deimlo effaith y pandemig.
“Mae’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru, fel systemau gofal iechyd eraill, yn wynebu’r pwysau ariannol mwyaf heriol ers sawl blwyddyn,” meddai.
“Mae’r galw ar wasanaethau yn parhau i gynyddu, ac mae chwyddiant yn uchel o hyd, gan effeithio ar gostau pethau fel ynni a meddyginiaethau, ac arwain at bwysau ar gyflogau.
“Yn ogystal, mae’r pandemig a chostau parhaus sy’n gysylltiedig â Covid yn dal i gael effaith.”
Mae’r arbedion sydd angen eu gwneud wedi’u rhannu ar draws y byrddau iechyd yng Nghymru, ac mae disgwyl i Fwrdd Iechyd Powys ddod o hyd i £3.4m ychwanegol, tra bod disgwyl i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ddod o hyd i £13.4m.
Bwrdd Iechyd Hywel Dda sydd â’r gorwariant mwyaf, ac mae disgwyl iddyn nhw ddod o hyd i £11.4m yn ychwanegol.
Ond mae pryderon y bydd y gostyngiad mewn gwariant yn arwain at lai o wlâu yn dod ar gael mewn ysbytai dros y gaeaf.
“Annhebygol” y bydd modd bwrw targedau rhestrau aros
Dywed y Gweinidog Iechyd ei bod hi hefyd yn “annhebygol” y bydd arhosiadau blwyddyn am apwyntiadau cyntaf wedi’u dileu erbyn diwedd y flwyddyn.
Roedd tua 27,000 o lwybrau cleifion yn aros mwy na dwy flynedd am driniaeth fis Awst eleni.
Yn ogystal, cafodd 52,600 o lwybrau cleifion eu hychwanegu at y rhestr aros ar gyfer apwyntiadau cyntaf.
Daw hyn wedi i’r targed ar gyfer apwyntiadau cyntaf gael ei ymestyn am flwyddyn, gyda’r targed gwreiddiol wedi ei osod ar gyfer diwedd 2022.
Fodd bynnag, dywed Eluned Morgan eu bod nhw wedi gweld “gwelliannau cyson” yn y maes.
Dywedodd wrth y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol fod Llywodraeth Cymru wedi gosod cerrig milltir ychwanegol er mwyn parhau i wella’r sefyllfa.
“Rydym yn disgwyl i 97% o’r llwybrau agored hynny fod yn aros llai na dwy flynedd erbyn Rhagfyr 2023 a 99% o’r rhai sy’n aros llai na dwy flynedd erbyn mis Mawrth 2024,” meddai.
“Nid yw’r rheini’n niferoedd ansylweddol.”