Roedd y grym gafodd ei ddefnyddio gan blismon gyda Heddlu’r De ar Mohamud Hassan yn “angenrheidiol, cymesur a rhesymol”, yn ôl gwrandawiad i gyhuddiadau o gamymddwyn difrifol.
Cafodd y plismon ei gyhuddo o dorri safonau proffesiynol drwy ddefnyddio grym diangen ar y gŵr yng ngorsaf heddlu Bae Caerdydd.
Yn ôl y panel oedd yn gyfrifol am gynnal y gwrandawiad, roedd tystiolaeth i gefnogi’r hyn ddywedodd y plismon.
Dywedodd wrth y gwrandawiad ei fod e wedi clywed Mohamud Hassan yn paratoi i boeri wrth iddyn nhw gerdded drwy’r ddalfa ar Ionawr 8, 2021.
Dywedodd y plismon iddo ddal ei ben i lawr er mwyn ei atal rhag poeri.
Clywodd y gwrandawiad nad oedd faint o amser dreuliodd e yn y ddalfa wedi cyfrannu at ei farwolaeth.
Mae’r heddlu wedi cydymdeimlo â’i deulu yn eu galar, ac maen nhw’n dweud eu bod nhw wedi cydymffurfio ag ymchwiliad Swyddfa Annibynnol Cwynion yr Heddlu.
“Gobeithio y bydd y craffu annibynnol hwn a chanlyniad y cwest sydd i ddod yn cynnig atebion i’r cwestiynau niferus sydd wedi’u codi ynghylch ei farwolaeth,” meddai llefarydd.