Mae angen Gweinidog Babanod, Plant a Phobol Ifanc er mwyn mynd i’r afael â thlodi plant, yn ôl Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru.
Daw hyn wedi i adroddiadau ddangos bod 28% o blant Cymru yn byw mewn tlodi cymharol.
Mae’r arweinydd, sydd â 25 mlynedd o brofiad ym maes gofal cymdeithasol, yn credu mai creu rôl Weinidogol newydd yw’r ffordd orau i fynd i’r afael â’r her.
“Mae tlodi plant yn glefyd sy’n effeithio ar galon ac enaid Cymru, ac mae’n rhaid i ni weithredu ar unwaith,” meddai.
“Nid oes digon yn cael ei wneud i fynd i’r afael â’r mater hwn yng Nghymru.
“Nid oes gan Lywodraeth Lafur Cymru unrhyw wir afael ar y broblem sy’n cael ei hysgogi gan Lywodraeth Geidwadol yn San Steffan nad oes ots ganddi.
“Rwy’n credu, drwy gyflwyno Gweinidog Babanod, Plant a Phobol Ifanc y byddai mynd i’r afael â’r mater hwn yn brif flaenoriaeth, yna byddwn yn cymryd cam i’r cyfeiriad cywir.
“Ein plant yw ein dyfodol, a thrwy warchod a gofalu am y genhedlaeth nesaf, byddwn yn adeiladu yfory mwy disglair.”
‘Blaenoriaeth lwyr’
Dywed llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod mynd i’r afael â thlodi plant yn “flaenoriaeth lwyr” iddyn nhw.
“Rydyn ni’n mynd i’r afael â thlodi plant fel blaenoriaeth lwyr ac yn parhau i weithio gyda’n partneriaid tuag at Gymru ble gall pob plentyn, person ifanc a theulu ffynnu,” meddai.
“Mae dros 3,000 o blant, pobol ifanc, teuluoedd a sefydliadau wedi ymwneud â datblygu’r Strategaeth Tlodi Plant diwygiedig.”
Er hynny, dywed fod angen gweld ymrwymiad gwell gan San Steffan er mwyn gallu gostwng ffigyrau tlodi plant yn sylweddol.
Ar hyn o bryd, does dim gweinidog penodol o fewn Llywodraeth Cymru er mwyn mynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu plant a phobol ifanc.
Yn hytrach, mae materion sy’n ymwneud â phlant yn disgyn o dan gyfrifoldebau sawl gweinidog, megis Addysg, Iechyd neu Gyfiawnder Cymdeithasol.