Mae’r Senedd wedi cefnogi cynnig Plaid Cymru yn galw am gadoediad yn Gaza.

Fe fu Plaid Cymru’n galw am gefnogaeth drawsbleidiol i gynnig yn enw “heddwch a’r ddynoliaeth”, gafodd ei basio o 24 pleidlais i 19, gydag 13 yn ymatal gan gynnwys gweinidogion y Llywodraeth Lafur.

Roedd cynnig yn galw am gadoediad ar unwaith er mwyn dirwyn y brwydro rhwng Israel a Phalesteina a’r “ymosodiadau gwarthus ar sifiliaid diniwed i ben”.

Ar drothwy’r ddadl yn y Senedd, dywedodd Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru, fod ei blaid yn condemnio’r “ymosodiadau erchyll gan Hamas yn erbyn sifiliaid Israel” ar Hydref 7, gan alw am “ryddhau gwystlon ar unwaith”.

Roedd e hefyd wedi condemnio “ymosodiadau diwahân Llywodraeth Israel ar Gaza a chosbi cilyddol miloedd o Balestiniaid diniwed”.

Dywedodd fod angen galluogi’r asiantaethau priodol i fynd â “gofal hanfodol” at y miloedd o bobol sy’n dioddef ar Lain Gaza, ac i sicrhau heddwch hirdymor yn yr ardal dan sylw.

Yn ôl Rhun ap Iorwerth, roedd hi’n bwysig fod y Senedd, fel senedd genedlaethol ac fel rhan o’r gymuned ryngwladol, yn anfon “neges glir” yn enw “heddwch a’r ddynoliaeth”.

Y cynnig

Roedd cynnig Plaid Cymru’n:

  • condemnio’r ymosodiadau gan Hamas yn erbyn sifiliaid ac yn galw am ryddhau gwystlon ar unwaith
  • nodi dyletswydd Israel i sicrhau diogelwch a lles trigolion a Phalestiniaid
  • condemnio ymosodiadau diwahân gan Israel ar Gaza, gan ladd miloedd o sifiliaid Palesteinaidd diniwed, ac yn cytuno ag Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig nad oes modd cyfiawnhau cosbi Palestiniaid
  • galw ar y gymuned ryngwladol i uno dros gadoediad, galluogi’r awdurdodau dyngarol i helpu’r rhai mewn angen, rhoi pwysau ar Lywodraeth Israel i ddod â’r ymosodiadau sy’n groes i gyfraith ryngwladol a hawliau dynol i ben
  • gwneud popeth o fewn eu gallu i greu coridorau cymorth diogel ac ystyrlon yn Gaza
  • dangos solidariaeth â chymunedau ar y ddwy ochr yng Nghymru
  • annog y Senedd i gefnogi datrysiad dwy wladwriaeth er mwyn sicrhau heddwch

Gwelliant

Roedd y Ceidwadwr Darren Millar, ynghyd ag Alun Davies a Hefin David o’r Blaid Lafur, wedi cyflwyno gwelliant i’r cynnig.

Roedd y gwelliant yn:

  • rhoi’r bai yn llwyr ar Hamas am yr ymosodiadau
  • galw am gydnabod yr hawl i bob gwladwriaeth amddiffyn ei hun a’i thrigolion
  • credu y dylai pob rhyfel gael ei gynnal yn unol â chyfraith ryngwladol gan osgoi niweidio sifiliaid
  • difaru colli bywydau sifiliaid, a’r marwolaethau yn Israel, Gaza a’r Lan Orllewinol
  • cydymdeimlo â phobol ledled Cymru sydd wedi colli anwyliaid yno
  • cydnabod peryglon pellach yr argyfwng dyngarol yn Gaza
  • galw am ryddhau gwystlon, atal y brwydro er mwyn sefydlu coridorau dyngarol, ailagor croesffordd Rafah i alluogi sifiliaid, pobol o dramor, a gweithwyr a nwyddau dyngarol i groesi heb ymyrraeth
  • galw ar y gymuned ryngwladol i gydweithio â chynrychiolwyr ar y ddwy ochr i ddod â’r gwrthdaro i ben ac i drafod cytundeb heddwch parhaol i sicrhau diogelwch a llewyrch i bawb, yn seiliedig ar ddwy wladwriaeth

‘Cenedl fach yn gwneud datganiad mawr’

“Mae Senedd Cymru heno wedi galw am gadoediad ar unwaith yn Gaza ac Israel,” meddai Plaid Cymru wrth ymateb i’r ddadl.

“Mae ein Senedd wedi cymryd safiad dros ddynoliaeth.

“Gall Cymru, yn yr awr dywyll hon, fod yn genedl fach yn gwneud datganiad mawr dros heddwch.”

Achub y Plant yn croesawu’r canlyniad

Mae elusen Achub y Plant wedi “croesawu” canlyniad y bleidlais.

“Nid yw saib yn ddigonol i allu darparu y cymorth sydd ei angen a mynd i’r afael â’r amodau trychinebus sy’n wynebu 2.3m o drigolion Palesteina, hanner ohonyn nhw’n blant,” meddai Melanie Simmonds, pennaeth Achub y Plant Cymru.

“Mae dod o hyd i’r geiriau o ran mynegi maint y dioddefaint mae plant yn ei brofi yn mynd yn anoddach pob dydd.

“Rhaid cael cadoediad.

“Mae pob diwrnod o drais yn golygu mwy o greithiau meddyliol a chorfforol a fydd yn para am oes.”

Disgwyl i’r Senedd bleidleisio ar fater cadoediad yn Gaza

Plaid Cymru’n gofyn am gefnogaeth drawsbleidiol ar gyfer cynnig yn enw “heddwch a’r ddynoliaeth”