Mae angen “dysgu gwersi o lefydd eraill” wrth fynd i’r afael â’r argyfwng tai yng Nghymru, yn ôl Mabon ap Gwynfor.
Ar drothwy cynhadledd yn y Pierhead ym Mae Caerdydd ddydd Iau nesaf (Tachwedd 16) ar ddatrysiadau i’r argyfwng tai, dywed Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionydd ei fod yn awyddus i “sicrhau bod tai yn cael eu hystyried yn adnoddau craidd”.
Amcan y gynhadledd ‘Yr Hawl i Dai Digonol – Beth sy’n Bosibl yng Nghymru’, sy’n cael ei threfnu gan Gymdeithas yr Iaith a’i noddi gan Mabon ap Gwynfor a John Griffiths, yr Aelod Llafur o’r Senedd, yw amlinellu enghreifftiau o ddiwygiadau llwyddiannus i’r farchnad dai ar draws Ewrop er mwyn dangos beth allai fod yn bosibl yma yng Nghymru.
Mae rhai o unigolion mwyaf blaenllaw’r cyfandir ym maes polisi tai, gan gynnwys Sorcha Edwards, Ysgrifennydd Cyffredinol Housing Europe, a Javier Buron Cuadrado, cyn-Bennaeth Tai Cyngor Dinas Barcelona, ymysg y siaradwyr gwadd.
Mae disgwyl i gynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, ystod o bleidiau gwleidyddol, awdurdodau lleol, cymdeithasau tai ac undebau llafur fynychu.
Gobaith Cymdeithas yr Iaith yw y bydd yn dylanwadu ar Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru ar yr hawl i dai digonol a rhenti teg fydd yn cael ei gyhoeddi ymhen rhai misoedd.
‘Mae’r argyfwng tai yn dyfnhau’
“Mae’r argyfwng tai yn dyfnhau, wrth i fwy o bobl ffeindio nad ydy’r farchnad dai agored yn gweithio o’u plaid,” meddai Mabon ap Gwynfor.
“Mae’r farchnad dai yn ymateb i un meistr yn unig sef arian.
“Mae’n rhaid i ni, felly, osod y rheolau a chymryd yr awenau drwy ymyrryd yn y farchnad a sicrhau fod tai yn cael eu hystyried yn adnoddau craidd mewn cymdeithas wâr yn hytrach nag yn fuddsoddiad ariannol.
“Dyma pam fod y gynhadledd yma mor bwysig.
“Wrth i Gymru edrych ar ddatblygu cynlluniau sydd yn gweddu i’n hanghenion ni, rydym ni yn edrych oddi allan i ddysgu gwersi o lefydd eraill fydd yn ein hysbrydoli ni yma i ddatblygu cynlluniau blaengar fydd yn rhoi cymunedau a phobol yng nghanol ein cynlluniau.”
‘Cyfnod tyngedfennol i’r ymgyrch dros Ddeddf Eiddo’
“Mae’n gyfnod tyngedfennol i’r ymgyrch dros Ddeddf Eiddo yng Nghymru, lle mae cyfle i’r Llywodraeth gyflwyno deddfwriaeth fydd yn mynd at wraidd yr argyfwng tai, sef y farchnad dai agored,” meddai Jeff Smith, cadeirydd Grŵp Cymunedau Cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith.
“Bydd y gynhadledd yn dod ag arbenigwyr rhyngwladol, llunwyr polisi, gwleidyddion a’r rheiny sy’n wynebu heriau’r farchnad dai agored yn uniongyrchol ynghyd a chanfod tir cyffredin er mwyn cytuno ar ddatrysiadau cadarn i broblem sy’n gymaint o fygythiad i’n hiaith a’n cymunedau.”