Mae disgwyl i’r Senedd bleidleisio heno (dydd Mercher, Tachwedd 8) ar fater cadoediad yn Gaza, wrth i Blaid Cymru alw am gefnogaeth drawsbleidiol i gynnig yn enw “heddwch a’r ddynoliaeth”.

Mae’r cynnig yn galw am gadoediad ar unwaith er mwyn dirwyn y brwydro rhwng Israel a Phalesteina a’r “ymosodiadau gwarthus ar sifiliaid diniwed i ben”.

Ar drothwy’r ddadl yn y Senedd, dywed Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru, fod ei blaid yn condemnio’r “ymosodiadau erchyll gan Hamas yn erbyn sifiliaid Israel” ar Hydref 7, gan alw am “ryddhau gwystlon ar unwaith”.

Mae e hefyd wedi condemnio “ymosodiadau diwahân Llywodraeth Israel ar Gaza a chosbi cilyddol miloedd o Balestiniaid diniwed”.

Dywed fod angen galluogi’r asiantaethau priodol i fynd â “gofal hanfodol” at y miloedd o bobol sy’n dioddef ar Lain Gaza, ac i sicrhau heddwch hirdymor yn yr ardal dan sylw.

Yn ôl Rhun ap Iorwerth, mae’n bwysig fod y Senedd, fel senedd genedlaethol ac fel rhan o’r gymuned ryngwladol, yn anfon “neges glir” yn enw “heddwch a’r ddynoliaeth”.

Llythyr gan Gyngor Mwslimiaid Cymru

Yn y cyfamser, mae dros 150 o gynghorwyr o sawl plaid yng Nghymru wedi llofnodi llythyr gan Gyngor Mwslimiaid Cymru yn galw ar arweinwyr pleidiau gwleidyddol Cymru i gefnogi cadoediad.

Maen nhw hefyd yn galw ar Aelodau’r Senedd i bleidleisio dros y cynnig yn ei gyfanrwydd yn galw am gadoediad ar unwaith.

Mae 47 o sefydliadau, gan gynnwys grwpiau gwleidyddol ar lawr gwlad, wedi llofnodi llythyr at Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, yn galw arno fe ac Aelodau eraill o’r Senedd i gefnogi’r cynnig cyfan.

Y cynnig

Mae cynnig Plaid Cymru’n:

  • condemnio’r ymosodiadau gan Hamas yn erbyn sifiliaid ac yn galw am ryddhau gwystlon ar unwaith
  • nodi dyletswydd Israel i sicrhau diogelwch a lles trigolion a Phalestiniaid
  • condemnio ymosodiadau diwahân gan Israel ar Gaza, gan ladd miloedd o sifiliaid Palesteinaidd diniwed, ac yn cytuno ag Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig nad oes modd cyfiawnhau cosbi Palestiniaid
  • galw ar y gymuned ryngwladol i uno dros gadoediad, galluogi’r awdurdodau dyngarol i helpu’r rhai mewn angen, rhoi pwysau ar Lywodraeth Israel i ddod â’r ymosodiadau sy’n groes i gyfraith ryngwladol a hawliau dynol i ben
  • gwneud popeth o fewn eu gallu i greu coridorau cymorth diogel ac ystyrlon yn Gaza
  • dangos solidariaeth â chymunedau ar y ddwy ochr yng Nghymru
  • annog y Senedd i gefnogi datrysiad dwy wladwriaeth er mwyn sicrhau heddwch

Gwelliant

Mae’r Ceidwadwr Darren Millar, ynghyd ag Alun Davies a Hefin David o’r Blaid Lafur, wedi cyflwyno gwelliant i’r cynnig.

Mae’r gwelliant yn:

  • rhoi’r bai yn llwyr ar Hamas am yr ymosodiadau
  • galw am gydnabod yr hawl i bob gwladwriaeth amddiffyn ei hun a’i thrigolion
  • credu y dylai pob rhyfel gael ei gynnal yn unol â chyfraith ryngwladol gan osgoi niweidio sifiliaid
  • difaru colli bywydau sifiliaid, a’r marwolaethau yn Israel, Gaza a’r Lan Orllewinol
  • cydymdeimlo â phobol ledled Cymru sydd wedi colli anwyliaid yno
  • cydnabod peryglon pellach yr argyfwng dyngarol yn Gaza
  • galw am ryddhau gwystlon, atal y brwydro er mwyn sefydlu coridorau dyngarol
  • ailagor croesffordd Rafah i alluogi sifiliaid, pobol o dramor, a gweithwyr a nwyddau dyngarol i groesi heb ymyrraeth
  • galw ar y gymuned ryngwladol i gydweithio â chynrychiolwyr ar y ddwy ochr i ddod â’r gwrthdaro i ben ac i drafod cytundeb heddwch parhaol i sicrhau diogelwch a llewyrch i bawb, yn seiliedig ar ddwy wladwriaeth